Ein Cwmni
Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson yn gwmni cyfreithiol blaenllaw a chyflawn gwobrwyedig* sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol a chyngor i unigolion a busnesau ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer a thu hwnt. Gellir olrhain hanes y cwmni yn ôl i’r 1850au ond, er mor falch ydym o’n hanes, rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein gallu i arloesi a’r defnydd rydym yn ei wneud o dechnoleg gan mai dyma sy’n ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth gorau i’n cleientiaid heddiw (ac am flynyddoedd maith i ddod!).
Rydym yn gwmni mawr gyda chwech swyddfa stryd fawr ar hyd a lled Gogledd Cymru a Swydd Gaer ac mae hyn yn golygu ein bod yn y lle gorau i gefnogi cleientiaid personol a chorfforaethol fel eu gilydd.






Ein Cleientiaid
Un o’n prif gryfderau yw’r ymrwymiad personol gan pob aelod o staff i ddarparu gofal rhagorol i gleientiaid. Pan yn ein cyfarwyddo, fe gaiff y cleient ei gyflwyno i’r cyfreithiwr fydd yn gweithredu fel prif gyswllt. Mae ein cyfreithwyr a’u timau’n gweithio’n galed i adeiladu perthynas hirdymor gyda’n gleientiaid ac, o ganlyniad, rydym yn gweld cleientiaid yn dychwelyd atom dro ar ôl tro ac yn ein hargymell i’w ffrindiau a’u teuluoedd.
Ein Cymunedau
Mae cefnogi a helpu i wella’r cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt yn hanfodol bwysig i ni.
Yn 2019, fe sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson gan gyfarwyddwyr Cyfreithwyr Swayne Johnson er mwyn cyfeirio cymorth ariannol at elusennau lleol, mentrau cymunedol a phrosiectau llawr gwlad.

Ein Pobl
Yn 2019, fe sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson gan gyfarwyddwyr Cyfreithwyr Swayne Johnson er mwyn cyfeirio cymorth ariannol at elusennau lleol, mentrau cymunedol a phrosiectau llawr gwlad.
Ein Gwobrau ac Achrediadau:*
Yn 2020 ni oedd enillwyr Gwobrau Cyfreithiol Busnesau Bach a Chanolig am y Cwmni Cyfraith Gwasanaeth Llawn Gorau.
Yn 2018 roedd Swayne Johnson yn ail yng Ngwobrau Busnesau Gwledig yng nghategori Gwasanaethau Proffesiynol Gorau Gwledig. Yn 2017 a 2018 cafodd ein Hadran Cleientiaid Preifat ei hargymell yn y Legal 500. Roeddem hefyd yn enillwyr Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes f2n 2017.


