O dan reolau SRA, mae’n ofynnol inni gyhoeddi gwybodaeth am ein ffioedd a’n gwasanaethau mewn perthynas â gwerthiannau a phryniannau preswyl (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) ac ailforgeisi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw eiddo yn union yr un fath, a bydd ein ffioedd yn adlewyrchu gofynion penodol eich trafodiad. Er enghraifft, bydd delio ag eiddo newydd yn ystod y gwaith adeiladu, oherwydd y cymhlethdodau ychwanegol, yn costio mwy na delio ag eiddo sefydledig. Oherwydd hyn, ni allwn roi amcangyfrif dibynadwy o’n ffioedd ichi nes bod gennym fanylion eich trafodiad penodol. Cysylltwch ag unrhyw aelod o’n Tîm Trawsgludo i drafod ymhellach, fel y gallwn roi amcangyfrif dibynadwy ichi.
Rydym yn nodi isod ein ffioedd cychwynnol ac ar gyfartaledd, ond os oes gan eich trafodiad gymhlethdodau annisgwyl, byddwn yn eich hysbysu ar unwaith a byddwn yn trafod canlyniadau unrhyw gymhlethdodau o’r fath cyn codi ffioedd ychwanegol. Rydym hefyd yn nodi alldaliadau tebygol (mae’r rhain yn ffioedd sy’n daladwy yn ychwanegol at ein ffioedd) ond bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar bris prynu a lleoliad yr eiddo.
Weithiau, gall alldaliadau fod yn sylweddol uwch na’r ffigurau gaiff eu nodi.
A Ein Ffioedd
- Gwerthiant Preswyl
Mae ein ffioedd ar gyfer gwerthiant rhydd-ddaliadol yn dechrau ar £650.00 ynghyd â TAW o £130.00. Ein ffioedd ar gyfartaledd ar gyfer gwerthiant rhydd-ddaliadol heb gymhlethdodau annisgwyl yw £875.00 ynghyd â TAW o £175.00. Yr alldaliadau tebygol yw:
- Copi swyddfa o gofnodion cofrestru- £14.00 ynghyd â TAW o £2.80
Mae ein ffioedd ar gyfer gwerthiant lesddaliadol yn dechrau ar £800.00 ynghyd â TAW o £160.00. Ein ffioedd ar gyfartaledd ar gyfer gwerthiant lesddaliadol heb gymhlethdodau annisgwyl yw £975.00 ynghyd â TAW o £195.00.
- Ffioedd Cwmni Rheoli – mae’r rhain yn amrywio ond fel arfer maent rhwng £250.00 a £400.00 ynghyd â TAW.
- Pryniant Preswyl
Mae ein ffioedd ar gyfer pryniant rhydd-ddaliadol yn dechrau ar £700.00 ynghyd â TAW o £140.00. Ein ffioedd ar gyfartaledd ar gyfer pryniant rhydd-ddaliadol heb gymhlethdodau annisgwyl yw £900.00 ynghyd â TAW o £180.00. Yr alldaliadau tebygol yw
- Ffioedd chwilio – mae’r rhain yn amrywio ond maent fel arfer rhwng £250.00 a £300.00 ynghyd â TAW.
- Ffi’r Gofrestrfa Tir – mae hyn yn dibynnu ar y pris prynu ac a yw’r Eiddo wedi’i gofrestru ar Gofrestrfa Tir EF ond ar gyfer pryniant arferol gallai fod yn £100.00 neu £150.00.
- Treth Dir y Dreth Stamp / Treth Trafodiadau Tir – mae hyn yn dibynnu ar y pris prynu. Gallwch gyfrifo’r swm drwy ddefnyddio gwefannau CThEF (ar gyfer eiddo yn Lloegr) neu Awdurdod Cyllid Cymru (ar gyfer eiddo yng Nghymru).
Mae ein ffioedd ar gyfer pryniant lesddaliadol yn dechrau ar £800.00 ynghyd â TAW o £160.00. Ein ffioedd ar gyfartaledd ar gyfer pryniant lesddaliadol heb gymhlethdodau annisgwyl yw £1,095.00 ynghyd â TAW o £219.00. Yr alldaliadau tebygol yw’r ffioedd chwilio, ffi’r Gofrestrfa Tir, Treth Dir y Dreth Stamp / Treth Trafodion Tir sydd wedi’u nodi uchod ynghyd â’r canlynol
- Ffi Hysbysiad Trosglwyddo – mae hyn yn aml rhwng £50.00 a £100.00 ynghyd â TAW
- Ffi Hysbysiad o Dâl – mae hyn yn aml rhwng £50.00 a £100.00 ynghyd â TAW
- Ffi Gweithred Gyfamodi – os yn berthnasol, bydd y Landlord neu’r Cwmni Rheoli yn codi hyn ac mae’n anodd ei amcangyfrif. Mae’n aml rhwng £150.00 a £250.00 ynghyd â TAW.
- Ffi Tystysgrif Cydymffurfio – mae hyn yn aml rhwng £50.00 a £100.00 ynghyd â TAW.
- Ailforgeisio preswyl
Ailforgeisio preswyl
Mae ein ffioedd yn dechrau ar £595.00 ynghyd â TAW o £119.00. Ein ffioedd ar gyfartaledd ar gyfer ailforgeisio heb gymhlethdodau annisgwyl yw £700.00 ynghyd â TAW o £140.00. Yr alldaliadau tebygol yw:
- Copi swyddfa o gofnodion cofrestru – £14.00 ynghyd â TAW o £2.80.
- Ffioedd chwilio – mae’r rhain yn amrywio ond fel arfer maent rhwng £250.00 a £300.00 ynghyd â TAW.
- Ffi’r Gofrestrfa Tir – mae hyn yn dibynnu ar swm y morgais ac a yw’r Eiddo wedi’i gofrestru ar Gofrestrfa Tir EF ond gallai ailforgeisio arferol fod yn £20.00 neu £30.00.
- Ffi Hysbysiad o Dâl (os yn lesddaliad) – mae hyn yn aml rhwng £50.00 a £100.00 ynghyd â TAW.
B Ein Gwasanaethau
Mae’r union gamau sy’n gysylltiedig â thrafodiad yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Fodd bynnag, rydym yn nodi isod rhai o’r gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn ein ffioedd:
- Gwerthiant Rhydd-ddaliadol / Lesddaliadol
- Cymryd eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor cychwynnol
- Cael eich gweithredoedd teitl
- Drafftio Cytundeb a chasglu gwybodaeth ategol
- Cael eich Prydles a chysylltu â’r Landlord a / neu Gwmni Rheoli (os yn lesddaliad)
- Delio ag ymholiadau cyn cytundeb
- Trefnu ichi arwyddo’r holl ddogfennau angenrheidiol
- Cyfnewid cytundebau a phennu dyddiad cwblhau
- Cymeradwyo Gweithred Drosglwyddo a pharatoi i’w chwblhau
- Cwblhau’r gwerthiant
- Delio ag ad-daliad morgeisi
- Bod yn gyfrifol am drosglwyddo elw ichi
- Pryniant Rhydd-ddaliadol / Lesddaliadol
- Cymryd eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor cychwynnol
- Gwirio bod cyllid yn ei le er mwyn ariannu’r pryniant
- Derbyn a chynghori ar ddogfennau
- Cytundeb
Derbyn a chynghori ar Brydles (os yn lesddaliad) - Cynnal chwiliadau cyn cytundeb
- Gwneud ymholiadau i gyfreithiwr y Gwerthwr
- Gwneud ymholiadau i’r Cwmni Rheoli (os yn lesddaliad)
- Eich cynghori ar yr wybodaeth ddaw i law
- Delio ag amodau morgaias (os yn berthnasol)
- Drafftio Gweithred Drosglwyddo a Gweithred Forgais (os yn berthnasol)
- Eich cynghori ar gydberchnogaeth (os yn berthnasol)
- Cyfnewid cytundebau a phennu dyddiad cwblhau
- Cynnal chwiliadau cyn cwblhau
- Trefnu ichi arwyddo’r holl ddogfennau angenrheidiol
- Trefnu bod yr holl arian sydd ei angen yn cael ei dderbyn
- Cwblhau’r pryniant
- Delio â thalu unrhyw Dreth Dir y Dreth Stamp / Treth Trafodiadau Tir
- Delio â materion lesddaliadol ôl-gwblhau (os yn berthnasol – fel arfer yn cynnwys cael caniatâd y Cwmni Rheoli a threfnu i drosglwyddo cyfran y Gwerthwr)
- Delio â chais i gofrestru ar Gofrestrfa Tir EF
- Ailforgeisio
- Cymryd eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor cychwynnol
- Gwirio bod cyllid yn ei le er mwyn ariannu’r ailforgais
- Delio ag amodau morgais
- Cynnal chwiliadau
- Drafftio Gweithred Forgais a threfnu ichi ei harwyddo
- Cynnal chwiliadau cyn cwblhau
- Cwblhau’r ailforgais Delio ag ad-daliad morgeisi
- Delio â chais i gofrestru ar Gofrestrfa Tir EF
- Pa mor hir fydd eich mater yn ei gymryd?
Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis hyd y gadwyn mewn gwerthiant neu bryniant, ac a oes angen morgeisi ar y partïon dan sylw. Mae’r broses yn cymryd rhwng chwech a deg wythnos ar gyfartaledd o ddechrau’r gwaith cyfreithiol. Byddwn yn rhoi amcangyfrif mwy cywir o’r amserlen ichi wrth i’ch gwerthiant / pryniant fynd rhagddo. Bydd proses arferol o ailforgeisio yn cymryd rhwng pedair a chwe wythnos.
C Pwy fydd yn delio â’ch mater?
Cliciwch ar ddolen i’r aelodau canlynol o’n Tîm Trawsgludo:
Michael Tree, Caryl Vaughan, Llyr Williams, Philip Patel, Mared Williams, Emily Brayford
Updated 25.4.2025