O dan reolau SRA, mae’n ofynnol inni gyhoeddi gwybodaeth am ein ffioedd a’n gwasanaethau mewn perthynas â gweinyddu ystad person ymadawedig (caiff hefyd ei gyfeirio ato fel “profiant”). Mae’n ofynnol inni gyhoeddi gwybodaeth am ein ffioedd a’n gwasanaethau mewn perthynas ag achosion profiant diwrthwynebiad lle mae’r holl asedau yn y DU.

Fodd bynnag, mae pob ystad yn wahanol, a bydd ein ffioedd yn adlewyrchu amgylchiadau unigol y mater. Er enghraifft, os oes Ewyllys ac un buddiolwr a dim tŷ (eiddo), bydd ffioedd yn is nag os nad oes Ewyllys a / neu fwy nag un buddiolwr, tŷ a nifer o gyfrifon banc a buddsoddiadau. Oherwydd hyn, ni allwn roi amcangyfrif dibynadwy o’n ffioedd ichi nes bod gennym fwy o wybodaeth. Felly, cysylltwch gydag aelod o’n tîm cyfeillgar a phroffesiynol a fyddai’n hapus i drafod materion gyda chi, cadarnhau eich gofynion a rhoi amcangyfrif dibynadwy ichi.

Rydym wedi nodi isod ein ffioedd cychwynnol ac ar gyfartaledd ar gyfer senario profiant arferol, ond gall y ffigurau hyn amrywio mewn achosion â chymhlethdodau arbennig. Dyma pam y byddwn bob amser yn rhoi amcangyfrif o gost unigol ichi ar y dechrau. Ar ben hynny, os bydd cymhlethdodau annisgwyl yn codi, byddwn bob amser yn eich hysbysu am hynny ar unwaith a byddwn yn trafod canlyniadau unrhyw gymhlethdodau o’r fath cyn codi ffioedd ychwanegol. Rydym hefyd wedi nodi’r alldaliadau tebygol (taliadau sy’n gysylltiedig â’ch mater sy’n daladwy i drydydd barti). Bydd alldaliadau ychwanegol yn berthnasol os nad oes Ewyllys. Weithiau, gall fod alldaliadau annisgwyl a / neu gall alldaliadau fod yn uwch na’r ffigurau gaiff eu nodi.

A Ein Ffioedd

Nid oes unrhyw hawliadau yn erbyn yr ystad

Mae ein ffioedd yn dechrau ar £2,000.00 ynghyd â TAW ac alldaliadau.

Ein ffioedd ar gyfartaledd yw £4,000.00 ynghyd â TAW ac alldaliadau.

Mewn rhai achosion, gellir codi tâl ar yr elfen werth hefyd (gweler isod).

Alldaliadau sydd fel arfer yn berthnasol yw:-

Ffi talu  – £15.00 (dim TAW)

Ffi tyngu – £5.00 ynghyd â £2.00 fesul arddangosfa fesul Cynrychiolydd Personol (dim TAW)

Ffi cais profiant – £155.00 ynghyd â £0.50c fesul copi wedi’i selio (dim TAW)

Chwiliad methdaliad – £2.00 (ynghyd â TAW) fesul buddiolwr

Hysbysiadau yn y London Gazette a phapurau newydd lleol (mae hysbysiadau o’r fath yn helpu i amddiffyn rhag hawliadau annisgwyl – £150.00 i £250.00 (ynghyd â TAW))

Elfen Werth

Mae Cymdeithas y Gyfraith yn caniatáu i gyfreithwyr godi elfen werth ar faterion profiant. Mae’r elfen werth yn daladwy yn ychwanegol at ein ffioedd, TAW ac alldaliadau.

Caiff swm yr elfen werth ei osod gan Gymdeithas y Gyfraith fel a ganlyn:

Rhwng 0.5% a 0.75% o werth eiddo sefydlog (tir ac eiddo)

Rhwng 1.0% a 1.5% o werth eiddo personol (arian parod, cynilion, cyfranddaliadau, buddsoddiadau ayb).

Nid ydym bob amser yn codi tâl am yr elfen werth. Wrth wneud penderfyniad, byddwn yn ystyried amgylchiadau pob achos ac yn gwneud asesiad risg. Am enghreifftiau o ffactorau perthnasol gaiff eu hystyried, gweler isod.

Ffactorau Perthnasol

Mae pob ystad yn wahanol ac felly mae’n bwysig ein bod yn ystyried pob mater unigol yn ofalus cyn cadarnhau unrhyw amcangyfrif. Rydym wedi nodi isod rai o’r ffactorau yr ydym yn eu hystyried unwaith y bydd gennym fwy o wybodaeth ac yna gallwn ddarparu amcangyfrif dibynadwy a chadarnhau a fydd elfen werth yn cael ei chodi ai peidio.

A oes Ewyllys ddilys

Pwy yw’r Cynrychiolwyr Personol? Allwn ni eu hadnabod yn hawdd?

Gwerth yr ystad

A yw’r ystad yn destun Treth Etifeddiant?

A oes unrhyw ryddhad ar gael ar gyfer Treth Etifeddiant (gan gynnwys y Band Dim Cyfradd Trosglwyddadwy a’r Band Dim Cyfradd Preswyl)?

A oes eiddo amaethyddol?

A oes asedau busnes?

Nifer y cyfrifon banc

Nifer y buddsoddiadau eraill

Nifer y buddiolwyr (a’u hoedran)

A oes anghydfodau rhwng y buddiolwyr

A oes unrhyw Ymddiriedolaethau parhaus?

Y person sy’n gyfrifol am eich mater a’u cyfradd tâl yr awr

Ein Gwasanaethau

Byddwn bob amser yn cytuno ar y gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn ein hamcan ffi ac yn cadarnhau hyn (yn ysgrifenedig) ar y dechrau. Fodd bynnag, rydym wedi nodi isod rai o’r gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys:-

  • Darparu aelod ymroddedig a phrofiadol o’n tîm ichi fydd yn gweithredu fel eich prif bwynt cyswllt
  • Cyfarfod â chi i dderbyn eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor cychwynnol
  • Nodi a oes Ewyllys
  • Nodi’r ysgutorion neu’r gweinyddwyr a’r buddiolwyr sydd wedi’u penodi’n gyfreithiol
  • Cynghori’r ysgutorion neu’r gweinyddwyr sydd wedi’u penodi’n gyfreithiol ar eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau
  • Gwirio a yw’r ystad yn destun Treth Etifeddiant
  • Penderfynu a ddylid gwneud cais am unrhyw ryddhad rhag Treth
    Etifeddiant
  • Eich cynghori ar ymath o gais Profiant y bydd ei angen arnoch a’r broses
  • Cwblhau’r cais profiant a ffurflenni CThEF
  • Drafftio’r Llw cyfreithiol
  • Cyflwyno’r cais i’r Llys Profiant ar eich rhan
  • Trefnu taliad Treth Etifeddiant o’r ystad
  • Cael Profiant
  • Casglu a dosbarthu’r holl asedau yn yr ystad

Efallai y bydd angen gwasanaethau ychwanegol arnoch nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr amcan ffi, er enghraifft:-

  • Gwerthu neu drosglwyddo eiddo
  • Paratoi ffurflenni treth
  • Paratoi ffurflenni treth Cynghori ar / creu / rheoli unrhyw Ymddiriedolaethau parhaus
  • Gweithredoedd Amrywio (gaiff eu defnyddio i amrywio telerau Ewyllys)

Os bydd arnoch angen unrhyw wasanaethau nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr amcan ffi, byddwn bob amser yn trafod hyn gyda chi, yn rhoi amcangyfrif pellach ichi a / neu yn eich cyfeirio at rywun a all helpu.

B Pa mor hir fydd eich mater yn ei gymryd?

Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis a oes Ewyllys ddilys, gwerth, nifer a natur yr asedau yn yr ystad ac a oes treth etifeddiant yn daladwy. Ar gyfartaledd, caiff ystadau nad ydynt yn destun treth etifeddiant eu cwblhau o fewn 3 i 12 mis. Gan amlaf, bydd derbyn y grant cynrychiolaeth yn cymryd rhwng 6 a 12 wythnos. Bydd casglu asedau yn cymryd rhwng 2 a 4 wythnos (os nad oes tŷ neu dir neu eiddo arall). Bydd dosbarthu’r ystad yn cymryd rhwng 1 wythnos ac 8 mis (yn dibynnu ar gyfarwyddiadau’r Cynrychiolwyr Personol ynghylch aros 10 mis llawn ar ôl dyddiad y Grant Cynrychiolaeth).


C Pwy fydd yn delio â’ch mater?

Adennill Dyled:

Lynette Viney-Passig, Sarah Noton, Yvonne HughesRebecca Robinson, Sian Thompson, Anna Lloyd Edwards, Sarah Pierce, Kristin Charlton, Danielle Perrin, Emma Riley

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth