Adennill dyled (hyd at £100,000) ar gyfer busnesau bach
O dan Reolau SRA, mae’n ofynnol inni gyhoeddi gwybodaeth am ein ffioedd a’n gwasanaethau mewn perthynas ag adennill dyledion ar gyfer busnesau bach mewn perthynas â dyledion o hyd at £100.000. Ni fydd unrhyw hawliad i adennill dyled yn union yr un fath ag un arall. Bydd llawer yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys e.e.
- A oedd y cytundeb yn un ysgrifenedig neu ar lafar neu drwy ymddygiad neu gymysgedd
- Telerau’r cytundeb
- A ydy’r gwrthwynebydd yn ddefnyddiwr
- Swm yr hawliad
A oes gan y gwrthwynebydd sail ddadleuol dros ddadlau’r ddyled a/neu wrth-hawlio e.e. ar sail gwasanaeth gwael, nwyddau o ansawdd anfoddhaol, oedi a cholledion canlyniadol
Oherwydd yr ystod o newidion ni allwn roi amcangyfrif dibynadwy o’n ffioedd ichi nes bod gennym fanylion am y cytundeb, golwg ar y dogfennau perthnasol a’ch cyfarwyddiadau manwl ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd gan gynnwys unrhyw ohebiaeth a thrafodaethau gyda’r gwrthwynebydd.
Rydym yn nodi isod ein ffioedd cychwynnol ac ar gyfartaledd o dan wahanol senarios. Os oes gan eich hawliad gymhlethdodau annisgwyl, byddwn yn eich hysbysu ar unwaith ac yn trafod canlyniadau urhyw gymhlethdodau o’r fath cyn codi ffioedd ychwanegol. Os caiff achos llys ei gyhoeddi, yna bydd ffioedd llys yn daladwy i’r llys (yn ychwanegol at ein ffioedd) ac mae’r rhain yn cael eu pennu gan y llywodraeth ac yn gyffredinol yn cynyddu o bryd i’w gilydd. Bydd y ffi llys gychwynnol ar gyhoeddi achos llys yn dibynnu ar werth yr hawliad. Byddwn yn eich cynghori o’r ffi llys honno pan fyddwn yn gwybod gwerth eich hawliad.
A Ein ffioedd a’n gwasanaethau
Trafodaeth a chyngor cychwynnol
Mae hyn yn golygu derbyn cyfarwyddiadau cychwynnol gennych (fel arfer mewn cyfarfod sy’n para tuag awr), ystyried y dogfennau gaiff eu darparu inni a rhoi ein cyngor cychwynnol ichi yn unol â’ch cyfarwyddiadau a’n hystyriaeth o’r dogfennau.
Amcan ffi ar gyfartaledd: £500 ynghyd â TAW
- Llythyr Hawlio
Mae hyn yn cynnwys paratoi a chael eich cymeradwyaeth ac yna anfon Llythyr Hawlio at eich gwrthwynebydd a darparu copi o unrhyw ymateb ichi.
Amcan ffi ar gyfartaledd: £250 – £400 ynghyd â TAW yn dibynnu ar gymhlethdod a maint dogfennau arbennig o berthnasol.
- Hawliadau llys – diamheuol
Bydd y costau hyn yn berthnasol pan fo’ch hawliad mewn perthynas ag anfoneb heb ei thalu nad yw’n cael ei dadlau, ac nid oes angen camau gorfodi. Os bydd y parti arall yn dadlau eich hawliad ar unrhyw adeg, byddwn yn trafod unrhyw waith pellach fydd ei angen ac yn rhoi cyngor diwygiedig ichi am gostau os bydd angen, a allai fod ar sail ffi sefydlog (e.e. os bydd angen llythyr untro) neu ar sail cyfradd fesul awr os bydd angen gwaith mwy helaeth.
- Byddai’r gwaith yma yn cynnwys:-
- Paratoi, cael eich cymeradwyaeth a chyhoeddi Ffurflen Hawlio
- Os na chaiff Cydnabyddiaeth o Wasanaeth neu Amddiffyniad ei derbyn, gwneud cais i’r llys roi dyfarniad trwy ddiffyg ymddangosiad
- Pan gaiff dyfarniad trwy ddiffyg ymddangosiad ei dderbyn, anfon copi atoch chi ac anfon copi at eich gwrthwynebydd yn gofyn am daliad
- Os na chaiff taliad ei dderbyn o fewn 14 diwrnod, eich cynghori ar gamau gorfodi posibl a chostau tebygol
- Ein hamcan ffi ar gyfartaledd: £500 ynghyd â TAW ynghyd â ffi cyhoeddi’r llys
Hawliadau llys – dadleuol
Nid yw’n bosibl darparu unrhyw amcangyfrif dibynadwy neu ar gyfartaledd ar gyfer cyfanswm y costau dan sylw os caiff achos llys ei amddiffyn gyda gwrth-hawliad, gan y bydd cymaint yn dibynnu ar amrywiaeth eang o ffactorau fydd yn amrywio o achos i achos.
Os caiff achos llys ei amddiffyn, byddwn yn rhoi cyngor achos-benodol ichi ar y costau tebygol ar gyfer gwahanol gamau o’r achos hyd at dreial. Byddai’r camau hynny’n cynnwys:
- Cyfarwyddiadau gan y llys – gosod amserlen ar gyfer y camau drwodd i’r treial
- Paratoi a chyfnewid Rhestrau o Ddogfennau ac anfon a derbyn copïau o ddogfennau
- Paratoi a chyfnewid ac ystyried datganiadau tystion
- Cael unrhyw dystiolaeth arbenigol berthnasol gyda chaniatâd y llys
- Trafodaethau talu a chyfryngu posibl gyda thrydydd parti annibynnol (“cyfryngwr”)
- Paratoi ar gyfer a mynychu treial
B Pa mor hir fydd eich mater yn ei gymryd?
Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond yn ein profiad ni, mae’r amser ar gyfartaledd fel a ganlyn:
- Trafodaeth a chyngor cychwynnol: pythefnos
- Llythyr hawlio: 1 – 2 wythnos arall
- Hawliad llys – diamheuol: 6 – 8 wythnos arall
- Hawliad llys – wedi’i amddiffyn: 6 – 12 mis arall
C Pwy fydd yn delio â’ch mater?
Caiff eich achos ei drin gan David Scott sy’n Gyfreithiwr a Chyfarwyddwr gyda Chyfreithwyr Swayne Johnson.
Cymhwysodd David Scott fel cyfreithiwr ym 1983 a fo yw Pennaeth ein Hadran Ymgyfreitha.
Cyfradd yr awr David Scott yn bresennol yw £225 yr awr ynghyd â TAW.
Trwy gydol ei yrfa gyfreithiol ers dod yn gyfreithiwr ym 1983, mae David Scott wedi delio ag achosion Ymgyfreitha Sifil gan gynnwys adennill dyledion.