Mae Darparu Lle Diogel a Chefnogol i'ch Teulu yn Bwysig

Mae Ysgariad trwy Gyfraith Teulu a’i broblemau cysylltiedig yn gallu bod yn hynod ddrud ac achosi trallod meddwl i chi, heblaw eich bod yn ffodus, neu’n dewis y cyfreithiwr cywir , neu’r ddau! Mae ysgariad neu unrhyw wahanu’n golygu llawer mwy na dau unigolyn yn torri perthynas. Yn aml iawn bydd yn cynnwys gwneud y trefniadau priodol ar gyfer y plant a’r arian hefyd.

Am ein bod yn arbenigwyr yn y maes yma, rydym yn adnabod y gyfraith a sut i wneud iddi weithio i chi.

Y cyfreithiwr teulu gorau yw’r un sy’n gallu sicrhau bod eich buddiannau’n cael eu diogelu heb greu unrhyw drallod ychwanegol na chostau dianghenraid i chi.

Mae Jon Moriarty yn aelod o Resolution (sef Cymdeithas Cyfreithwyr Cyfraith y Teulu gynt) ac yn Arbenigwr wedi’i Achredu gan Resolution.  Mae aelodaeth o Resolution yn ymrwymo Cyfreithwyr Teulu i ddatrys anghydfodau heb wrthdaro. Rydym yn credu y dylid ymdrin ag anghydfodau sy’n ymwneud â chyfraith teulu mewn ffordd adeiladol, sydd wedi’i llunio i ddiogelu urddas pobl ac i annog cytundeb. Gallwch fynd ar wefan Resolution ar www.resolution.org.uk. Mae gan ein tîm i gyd brofiad sylweddol ac maent yn cynnig gwasanaeth o safon sydd wedi’i deilwra’n benodol i’r cleient ac maent wrth law i wrando ac i’ch cynghori mewn ffordd ymarferol, cyfeillgar a chlir.

Yn ddieithriad, mae cleientiaid yn poeni am gostau beth bynnag yw eu problem gyfreithiol. Gallwn asesu yn ystod eich apwyntiad a ydych yn gymwys i dderbyn Cymorth Cyfreithiol neu gallech ddefnyddio’r cyfrifwr cymhwysedd drwy glicio yma. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Cymorth Cyfreithiol byddwn yn hapus i drafod eich opsiynau gyda chi ac rydym yn hyderus y byddwn yn gallu teilwra ein gwasanaethau i’ch amgylchiadau ariannol arbennig chi.

Ysgariad a Gwahanu

Dydy hi byth yn hawdd gwneud y penderfyniad i fwrw ymlaen a chael ysgariad ac os oes plant yn gysylltiedig â hynny hefyd, mae’n anoddach fyth. Efallai eich bod eisiau cyngor ynglŷn â beth i’w ddisgwyl os byddwch yn penderfynu cychwyn trefniadau i ysgaru neu efallai y byddwch angen cymorth i wneud synnwyr o’ch sefyllfa. Gallwn drafod yr holl opsiynau sydd ar gael i chi ac os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â’r ysgariad, byddwn ninnau yno i’ch helpu ac i weithio ochr yn ochr â chi i gyflawni’r hyn sydd orau i chi ac i’ch teulu.

Materion yn Ymwneud â Phlant

Os oes gennych blant ac mae eich perthynas yn chwalu, mae’n anodd cofio weithiau y byddwch yn dal i fod yn rhieni, beth bynnag fydd canlyniad yr ysgariad. Bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau ynglŷn â phwy fydd yn cymryd y plant i fyw gyda nhw (preswylio) a sut y bydd y rhiant arall yn trefnu eu gweld nhw (cysylltu). Byddwn yn eich annog a’ch cefnogi i geisio dod i benderfyniadau am y plant heb ymyrriad y llys. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl byddwn yn eich tywys drwy’r system llys ac yn gwneud ein gorau i’ch helpu i gael y sefyllfa orau bosib i chi ac i’ch plant.

Weithiau, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfranogi yn yr achos. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn adran o fewn eich awdurdod lleol ac maent yno i ddiogelu plant. Mae’n rhaid iddynt gael caniatâd gan y llysoedd os ydynt eisiau cymryd camau nad ydych yn cytuno â nhw. Yr enw ar y gweithredoedd yma yw achosion gofal. Os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn credu bod plentyn yn dioddef niwed difrifol neu’n debygol o ddioddef niwed difrifol, gallent wneud cais i’r llys am orchymyn gofal. Mae nifer o wahanol orchmynion y gall y llys eu gwneud, yn cynnwys gorchmynion goruchwylio, gorchmynion preswyliad, gorchmynion gwarcheidwaeth arbennig a gorchmynion cyswllt.

Materion Ariannol

Yn aml iawn, agwedd fwyaf heriol y gwahanu yw datrys materion ariannol sy’n codi o chwaliad y berthynas a gall hyn arwain at or-bryder ac ansicrwydd. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatrys y problemau ac i drafod setliad ariannol. Gellir dod i gytundeb am gartref y teulu, trefniadau cynnal, pensiynau, busnesau ac asedau eraill ond os nad yw hyn yn bosibl ac mae’r mater yn cael ei gyfeirio at y llys, byddwn yn rhoi cyngor i chi, yn eich cefnogi ac yn eich cynrychioli. Bydd ein cyngor i chi’n realistig bob amser ac wedi’i deilwra i’ch amgylchiadau arbennig chi.

Partneriaethau Sifil

Ers mis Rhagfyr 2005, mae’r Ddeddf Partneriaeth Sifil wedi galluogi cyplau o’r un rhyw i dderbyn cydnabyddiaeth yn y gyfraith i’w perthnasau. Maent wedi derbyn hawliau tebyg i gyplau priod a chânt eu cydnabod yn bartneriaid sifil. Yn anffodus bydd rhai partneriaethau sifil yn chwalu ac mae’r gyfraith yn ymdrin â’r hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gan bartneriaid mewn perthynas â phlant, cyllid a diogelwch rhag trais. Mae chwalu partneriaeth sifil yn cynnwys gweithdrefnau tebyg i ysgariad a byddwn yn eich helpu drwy’r broses.

Cyplau Di-briod

Fel “cydbreswylwyr” (pobl sy’n cyd-fyw) nid ydych yn ffitio’n hawdd i’r system gyfreithiol ond dydy hynny ddim yn golygu bod chwalfa eich perthynas yn llai emosiynol nac yn llai o straen na phe baech chi wedi priodi, yn enwedig os oes gennych blant. Mae’n bwysig eich bod chi’n deall nad ydy cyd-fyw’n rhoi hawliau cyfreithiol i chi dros eich gilydd. Ond gallwn roi cyngor i chi ynghylch y ffordd y mae’r gyfraith yn effeithio ar eich plant a’ch hawliau eiddo os ydych yn berchen ar gartref neu’n rhentu cartref.

Os ydych mewn perthynas, gallwn roi cyngor i chi am ffyrdd o’ch diogelu eich hun, eich plant a’ch cartref.

Cam-drin Domestig

Os ydych yn dioddef oherwydd partner neu bartner priod treisgar, gallwn eich helpu i gael gwaharddeb i dynnu’r partner neu’r priod treisgar yma o’r cartref.

Mae cam-drin domestig yn cynnwys pob math o ymddygiad sydd wedi ei fwriadu i’ch anafu neu godi ofn arnoch. Gall ddigwydd i unrhyw un, yn ddyn, dynes, hoyw, lesbiad ac unigolyn heterorywiol. Mae cyfreithiau i’ch diogelu chi a’ch plant a byddwn yn rhoi cyngor i chi. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â mudiadau lleol sydd yno i’ch helpu a’ch cefnogi chi.

Cytundeb Cyn Priodi

Mae pobl yn llofnodi’r rhain cyn priodi. Maent yn disgrifio sut y bydd y darpar ŵr a’r ddarpar wraig yn dal eu hasedau ac yn cadarnhau beth fydd yn digwydd os bydd y cwpwl yn ysgaru. Mewn llawer o wledydd mae’r llys yn gorfodi cytundebau cyn priodi ond yng Nghymru a Lloegr nid yw’r cytundebau’n rhwymo’r llys ac ni all cytundeb o’r fath atal y llys rhag gwneud yr hyn y mae’n ei ystyried yn ymraniad teg o asedau’r briodas. Gallai’r llys roi ystyriaeth i gytundeb o’r fath fodd bynnag pan fydd yn ystyried yr amgylchiadau ariannol ar amser yr ysgariad.

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth