Ein polisi cwynion

We are committed to providing a high-quality legal service to all our clients. When something goes wrong, we need you to tell us about it. This will help us to improve our standards.

If you have a complaint, please contact us with the details.

Your complaint will be referred to the line manager of the lawyer dealing with your matter who is usually the Head of Department for the type of work we are dealing with on your behalf. The name of that individual is contained in the Terms and Conditions provided to you. If the Head of Department is the lawyer dealing with your matter, your complaint will be referred to another director or to the Managing Director, Lynette Viney-Passig, who will refer your concerns to another director for investigation and reply.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd uchel i’n holl gleientiaid. Pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, mae angen ichi ddweud wrthym amdano. Bydd hyn yn ein helpu i wella ein safonau.

Os bydd gennych gŵyn, cysylltwch â ni gyda’r manylion.

Caiff eich cwyn ei chyfeirio at reolwr llinell y cyfreithiwr sy’n delio â’ch mater sydd fel arfer yn Bennaeth yr Adran ar gyfer y math o waith yr ydym yn delio ag o ar eich rhan. Mae enw’r unigolyn hwnnw wedi’i gynnwys yn y Telerau ac Amodau gaiff ei ddarparu ichi. Os mai Pennaeth yr Adran yw’r cyfreithiwr sy’n delio â’ch mater, caiff eich cwyn ei chyfeirio at gyfarwyddwr arall neu at y Rheolwr Gyfarwyddwr, Lynette Viney-Passig, fydd yn cyfeirio eich pryderon at gyfarwyddwr arall ar gyfer ymchwiliad ac ateb.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith o’i derbyn, gan amgáu copi o’r weithdrefn hon.

Caiff eich cwyn yna ei hymchwilio a byddwn yn ymateb ichi o fewn yr 14 diwrnod nesaf. Os nad yw’n bosibl ymchwilio i’ch cwyn yn llawn o fewn y cyfnod hwn, cewch eich cynghori yn unol â hynny o fewn y cyfnod hwnnw a’ch hysbysu o bryd y gallech ddisgwyl derbyn ymateb sylweddol.

Mae’n bosib y bydd angen i Bennaeth yr Adran / y Cyfarwyddwr sy’n ymdrin â’ch cwyn, yn ystod cyfnod yr adolygiad, gyfeirio a thrafod y mater gyda’r person y mae cwyn wedi’i gyflwyno yn eu herbyn ac archwilio’r ffeil. Byddan nhw’n gwneud hyn cyn ysgrifennu atoch cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn eitem 2 uchod. Os bydd yr ymchwiliad yn cymryd mwy o amser, naill ai yn sgil natur y gŵyn neu’r lefel o ohebiaeth sydd i’w darllen ac unrhyw gymhlethdodau, yna byddwch yn derbyn ymateb yn y cyfamser yn egluro’r sefyllfa. Cyn i 4 wythnos ddod i ben o ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn eitem 2 uchod, bydd y Pennaeth Adran / y Cyfarwyddwr sy’n ymchwilio i’ch cwyn yn rhoi ymateb llawn ichi ar ganlyniad ei h/ymchwiliad. Os nad yw’n bosibl darparu ymateb sylweddol ymhen y cyfnod hwnnw, byddwch yn cael eich hysbysu o hyn ac yn derbyn dyddiad diwygiedig o ran pryd ddylech chi ddisgwyl ymateb o’r fath. Ni fydd hyn y tu hwnt i 8 wythnos o’r cyfnod y cyfeirir ato yn eitem 2 uchod.

Efallai y bydd angen i’r ymchwilydd gwrdd â chi i drafod eich cwyn, yn amodol ar anghenion ac ymarferoldeb yr ymchwiliad. Os felly, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gwrdd ag o / hi ar amser a dyddiad ac yn rhywle sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.

Unwaith y byddwch chi wedi derbyn ymateb sylweddol, os ydych chi’n dal yn anfodlon, fe ddylech chi gysylltu gyda ni eto a byddwn yn trefnu i’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Lynette Viney-Passig neu Gyfarwyddwr arall nad yw’n gysylltiedig â’r mater yn y cwmni i adolygu’r penderfyniad.

Byddwn yn ysgrifennu atoch ymhen 28 diwrnod o dderbyn eich cais am adolygiad, yn cadarnhau ein safbwynt terfynol am eich cwyn ac yn egluro ein rhesymau.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, neu os nad ydym wedi ymdrin â’ch cwyn ymhen 8 wythnos o’i dderbyn, gallwch gysylltu gyda’r:

Ombwdsmon Cyfreithiol,
PO Box 6167
Slough
SL1 0EH

Fe ddylid cyflwyno unrhyw gŵyn at yr Ombwdsmon Cyfreithiol ymhen chwe mis o ddyddiad ein hymateb ysgrifenedig terfynol fel arfer. Dylid anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon Cyfreithiol ymhen 1 flwyddyn o ddyddiad y broblem a wnaeth arwain at y gŵyn, neu ymhen 1 flwyddyn i’r dyddiad y dylech fod wedi sylweddol bod achos dros gwyno. I wybod mwy, fe ddylech chi gysylltu gyda’r Ombwdsmon Cyfreithiol ar 0300 555 0333 neu ar  enquiries@legalombudsman.org.uk.

Mae cyrff cwynion arall (megis ProMediate o Brow Farm, Top Road, Frodsham WA6 6SP) yn bodoli sy’n gymwys i ymdrin â chwynion am wasanaethau cyfreithiol pe baech chi ac ein cwmni yn dymuno manteisio ar gynllun o’r fath.

Os oes rhaid inni newid unrhyw un o’r amserlenni uchod, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn egluro pam.

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth