Gofynnwn ichi ddarllen y polisi cwcis hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni a’n defnydd o gwcis neu dechnolegau tebyg ar ein gwefan.
Fe ddylech ddarllen y polisi hwn ar y cyd â’n Polisi Preifatrwydd ar ein gwefan sy’n nodi sut a pham ein bod ni’n casglu, storio, defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn gyffredinol, ynghyd â’ch hawliau yn ymwneud â’ch gwybodaeth bersonol a manylion am sut i gysylltu gyda ni ac awdurdodau goruchwylio os oes gennych chi gŵyn.
Pwy ydym ni
Mae’r wefan hon wedi’i gweithredu gan Swayne Johnson Cyfyngedig sy’n masnachu fel Cyfreithwyr Swayne Johnson. Rydym yn gwmni cyfreithiol gwasanaeth llawn ac i wybod mwy, gwelwch ein tudalen Amdanom Ni.
Ein gwefan
Mae’r polisi cwcis hwn ond yn berthnasol i’ch defnydd chi o’n gwefan www.swaynejohnson.com.
Efallai y byddwn yn cynnig dolenni i wefannau eraill sy’n eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan gyrff trydydd parti dibynadwy penodol. Gall y gwefannau trydydd parti eraill hyn hefyd ddefnyddio cwcis neu dechnolegau tebyg yn unol â’u polisïau cwcis ar wahân eu hunain. Am wybodaeth preifatrwydd sy’n ymwneud â gwefannau’r cyrff trydydd parti eraill hyn, gwelwch eu polisïau cwcis fel y bo’n briodol.
Cwcis
Mae cwci yn ffeil testun bach sy’n cael ei osod ar eich dyfais (e.e. cyfrifiadur, ffôn clyfar neu ddyfais electronig arall) pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan. Mae’r rhain yn help inni eich adnabod chi a’ch dyfais a storio rhywfaint o wybodaeth am eich dewisiadau neu weithredoedd yn y gorffennol.
Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn monitro faint o weithiau rydych chi’n ymweld â’r wefan, pa dudalennau rydych chi’n ymweld â nhw, data traffig a data lleoliad. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i lunio proffil o’n defnyddwyr. Bydd peth o’r data hwn yn gyfanredol neu’n ystadegol, sy’n golygu na fydd modd inni eich adnabod yn unigol.
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis ac mae’r gwefannau isod yn rhoi gwybod ichi sut i gael gwared ar gwcis ar eich porwr. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithredu o ganlyniad.
I wybod mwy am ein defnydd o gwcis, gan gynnwys rhestr fanwl o’ch gwybodaeth y gallwn ni ac eraill ei chasglu trwy gwcis, gwelwch isod.
https://privacy.microsoft.com/en-us/windows- 10-microsoft-edge-and-privacy (Edge).
Ein defnydd o gwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon ar gyfer y canlynol:
- eich adnabod pryd bynnag y byddwch yn ymweld â’r wefan hon (mae hyn yn cyflymu eich mynediad i’r wefan oherwydd does dim rhaid ichi fewngofnodi bob tro);
- caffael gwybodaeth am eich dewisiadau a’ch defnydd o’n gwefan ni;
- cyflawni ymchwil a dadansoddiad ystadegol i helpu i wella ein cynnwys, [cynnyrch a gwasanaethau]ac i’n helpu i ddeall gofynion ein defnyddwyr yn well; a
- targedu ein hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu [a rhai ein partneriaid]yn fwy effeithiol drwy gynnig hysbysebion sy’n seiliedig ar ddiddordebau sy’n gweddu i’ch diddordebau chi; a
- gofalu bod eich profiad ar-lein yn fwy effeithlon a phleserus.
I wybod mwy am gwcis yn gyffredinol ewch i www.aboutcookies.org or www.allaboutcookies.org.
Mathau o gwcis
Mae’r cwcis byddwn yn gosod ar eich dyfais wedi’u rhannu i’r categorïau canlynol:
- Cwcis Sesiwn – mae’r rhain yn caniatáu i’n gwefan gysylltu eich gweithredoedd yn ystod sesiwn porwr penodol. Mae’r rhain yn dod i ben bob tro y byddwch chi’n cau’ch porwr ac nid ydyn yn aros ar eich dyfais yn dilyn hynny.
- Cwcis Parhaus – caiff y rhain eu cadw ar eich dyfais rhwng sesiynau porwr. Mae’r rhain yn caniatáu i’ch dewisiadau neu weithredoedd ledled ein gwefan gael eu cofio. Bydd y rhain yn aros ar eich dyfais nes iddyn nhw ddod i ben, neu nes y byddwch chi’n eu dileu o’ch storfa.
- Cwcis Hollol Angenrheidiol – mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol ichi allu pori ein gwefan a defnyddio’i nodweddion. Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.
- Cwcis Perfformiad – mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan, e.e. y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw amlaf. Dydy’r cwcis hyn ddim yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi. Bydd yr holl wybodaeth wedi’i chasglu gan y cwcis hyn yn gydgasgledig ac yn ddienw, a chaiff ond ei defnyddio i wella sut mae ein gwefan yn gweithio.
- Cwcis Ymarferoldeb – mae’r cwcis hyn yn caniatáu i’n gwefan gofio’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud (megis eich enw defnyddiwr, iaith, gweithred olaf a dewisiadau chwilio) a darparu nodweddion gwell, mwy personol. Mae’r wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu yn ddienw a ni ellir olrhain eich gweithgarwch pori ar wefannau eraill.
Y cwcis rydym yn eu defnyddio
Mae’r tabl isod yn darparu mwy o wybodaeth am y math o gwcis rydym yn eu defnyddio a pham:
| Y cwcis rydym yn eu defnyddio | Beth maen nhw’n ei wneud |
| Qtrans | qtrans_front_languageDefnyddir i ddangos gwefan mewn iaith ddewisol. (Cymraeg)
|
| AddThis | __atuvc , __atuvs Yn galluogi ymwelwyr i rannu cynnwys y wefan gydag ystod o blatfformau rhwydweithio a rhannu.
|
| act, c_user, datr, fr, m_pixel_ratio, pl, presence, sb, spin, wd, xs Cwcis sydd eu hangen ar gyfer y plugin cymdeithasol Facebook.
|
Caniatâd i ddefnyddio cwcis
Byddwn yn gofyn am eich caniatâd (cydsyniad) i osod cwcis neu dechnolegau tebyg eraill ar eich dyfais, ac eithrio pan fo’r rhain yn hanfodol inni allu darparu’r gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdano (e.e. ichi allu ychwanegu pethau at eich basged siopa a defnyddio ein proses talu am eitemau).
Mae yna hysbysiad ar ein tudalen gartref sy’n disgrifio sut rydym yn defnyddio cwcis ac yn gofyn am eich caniatâd i osod cwcis ar eich dyfais.
Sut i ddiffodd cwcis
Os nad ydych chi am dderbyn cwcis, gallwch newid gosodiadau eich porwr fel na chaiff cwcis eu derbyn. Os wnewch chi hyn, cofiwch gallwch golli rhywfaint o ymarferoldeb y wefan hon. I wybod mwy am gwcis a sut i’w hanalluogi, ewch i dudalen gwe y Comisiynydd Gwybodaeth am gwcis: https://ico.org.uk/for-the-public/online/cookies/.
Sut i gysylltu gyda ni
Cysylltwch â’n Rheolwr Preifatrwydd Data os gwelwch yn dda, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi cwcis hwn neu’r wybodaeth rydym yn ei gadw amdanoch chi.
Os hoffech chi gysylltu gydag ein Rheolwr Preifatrwydd Data, anfonwch e-bost at garethd@swaynejohnson.com , ysgrifennwch at Gareth Davies yn Cyfreithwyr Swayne Johnson, 2 Sgwâr y Neuadd, Dinbych, LL16 3PA neu ffoniwch 01745 812835.
Oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi?
Os hoffech chi’r hysbysiad hwn ar ffurf arall (er enghraifft: ffeil sain, print bras, braille) cysylltwch gyda ni (gwelwch ‘Sut i gysylltu gyda ni’ uchod).
Newidiadau i’r polisi hwn
Cyhoeddwyd y polisi hwn ar 26/10/2018 a diweddarwyd diwethaf ar 18/03/2026.
Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd. Pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod ichi drwy’r wefan.