Sut i Wneud Cais

Dros y 100 mlynedd diwethaf mae Cyfreithwyr Swayne Johnson wedi cefnogi mentrau elusennol a phrosiectau cymunedol yn rhagweithiol, gan gael effaith gadarnhaol ar y mudiad hosbis, gwaith ieuenctid, lles plant, yr henoed, a llawer o brosiectau lleol eraill.

Rydym bellach wedi creu Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson fel cyfrwng ar gyfer rhoi cefnogaeth i’n helusennau enwebedig a phrosiectau lleol ar lawr gwlad.

Mae Cyfarwyddwyr a Chyfranddalwyr Cyfreithwyr Swayne Johnson eisoes wedi rhoi cyfran o’u helw i’r Ymddiriedolaeth Elusennol i sefydlu’r gronfa. Bydd Cyfarwyddwyr a staff Cyfreithwyr Swayne Johnson yn parhau i godi arian i ychwanegu at y cronfeydd hynny fel y gall y cwmni gefnogi prosiectau ac elusennau lleol amrywiol yn eu gwaith.

Mae rhoi rhywbeth yn ôl i wella ansawdd cymunedau lleol wrth wraidd Cyfreithwyr Swayne Johnson, ac yn un o’n gwerthoedd craidd.

Mae busnes Cyfreithwyr Swayne Johnson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson yn cael eu cadw’n gwbl ar wahân a bydd 100% o elw dosbarthadwy’r Ymddiriedolaeth ar gael ar gyfer Grantiau. Mae Cyfreithwyr Swayne Johnson hefyd yn cyflenwi gwaith cyfreithiol pro bono ac amser i’r Ymddiriedolaeth Elusennol i gefnogi ei bodolaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl weithgareddau elusennol ar gael drwy ymweld â gwefan y Comisiwn Elusennau neu drwy anfon e-bost at charity@swaynejohnson.com .

 

I Wneud Cais

Cwblhewch a chyflwynwch y cais ar-lein neu lawrlwythwch gopi a’i anfon at charity@swaynejohnson.com neu drwy’r post at: Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson, 2 Sgwâr y Neuadd, Dinbych, LL16 3PA.

Beth Sy’n Digwydd Nesaf

Bydd y Panel Grantiau yn cyfarfod yn chwarterol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 25ain o Fai, Awst, Tachwedd a Chwefror. Bydd eich cais yn cael ei gydnabod ac os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn cael gwybod drwy’r post neu e-bost.

    Sut i Wneud Cais

    Ewch i’n gwefan www.swaynejohnson.com/charitabletrust. Cwblhewch a chyflwynwch y cais ar-lein neu lawrlwythwch gopi a’i anfon at elusen@swaynejohnson.com neu trwy’r post i Ymddiriedolaeth Elusennol Swayne Johnson, 2 Hall Square, Dinbych, LL16 3PA.

    Sefydliad / Prosiect / Unigolyn / Enw (gofynnol)

    Cyfeiriad Yn Cynnwys Côd Post (gofynnol)

    Ebost (gofynnol)

    Ffôn (gofynnol)

    Enw'r Prosiect (gofynnol)

    Swm Yr Ymgeisir Amdano (gofynnol)

    Dywedwch wrthym am eich prosiect ogydd

    Pwy fydd yn elwa o'r prosiect?

    Pa ardal fydd yn elwa o'r prosiect. Ble ydych chi wedi'ch lleoli a lle bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio?

    Ydi'r prosiect yn gysyllteidif ag ysgol, clwb ieuenctid, beu sefydliad arall? Os felly, rhowch fanylion

    Rhowch dadansoddiad llawn o gostau eich prosiect

    I bwy dylid gwneud y siec yn daladwy os ydych yn llwyddiannus?

    Os yn berthanasol - sawl oedolyn fydd yn gweithio â phobl dan 18 oed neu oedolion bregus ar eich prosiect?

    A ydynt wedi eu gwirio drwy DBS?

    Rhowch dic i gadarnhau fod gennych ganiatád rhiant/gwarchodwr/unigolyn i dynnu lluniau a'u ddefnyddio at ddiben cyhoeddusrwydd y prosiect ogydd

    Rhowch dic i gadarnhau eich bod yn cydsynio iymweliad/trafodaeth ddilynol ac y byddwch yn darparu adborth ar y prosiect ogydd

    Oes unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffwch ei ddarparu? Os oes, ychwanegwch yma neu atodwch i'r ffurflen gais

    Beth Sy'n Digwydd Nesaf

    Bydd y Panel Grantiau yn cyfarfod bob chwarter. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 25ain o Fai, Awst, Tachwedd a Chwefror. Cydnabyddir eich cais ac, os bydd yn llwyddiannus, fe’ch hysbysir trwy’r post neu e-bost.Beth Sy'n Digwydd NesafBydd y Panel Grantiau yn cyfarfod bob chwarter. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 25ain o Fai, Awst, Tachwedd a Chwefror. Cydnabyddir eich cais ac, os bydd yn llwyddiannus, fe’ch hysbysir trwy’r post neu e-bost.
    ×

    Gadael Adborth