Arbenigedd
Mae gan Lynette dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda Chleientiaid Preifat er bod rheoli ei hadran a’r cwmni bellach yn cymryd y rhan fwyaf o’i hamser.
Mae Lynette a’i thîm arbenigol yn cynghori ac yn arwain cleientiaid ar bob agwedd o waith cleientiaid preifat yn cynnwys Ewyllysiau, Atwrneiaethau, Llys Gwarchod, Treth Etifeddiaeth, Ymddiriedolaethau, Cynllunio Ffioedd Cartrefi Gofal, Diogelu Asedau, Gweinyddu Ystadau (profiant), Cynllunio Olyniaeth Busnes ac Ystadau i unigolion a chleientiaid Busnes.
Yn y Gwaith
Mae Lynette wedi bod yn Gyfarwyddwr yn y cwmni ers 13 mlynedd.
Mae Lynette yn falch o fod wedi chwarae rhan sylweddol yn nhwf a datblygiad ei hadran Cleientiaid Preifat, sef yr adran fwyaf yng Ngogledd Cymru.
“Mae gennym ni dalent anhygoel o fewn y tîm. Maen nhw’n arbenigwyr technegol ond hefyd yn “bobl-bobl” ac yn hawdd iawn delio â nhw. Mae diwylliant gwaith tîm a chefnogol cryf o fewn yr adran gyda digon o rannu gwybodaeth a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad. ”.
Fel Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, mae Lynette yn goruchwylio rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd yn ogystal â’i amcanion strategol.
“Mae cael fy mhenodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni sydd â threftadaeth mor gryf yn anrhydedd fawr ac rwyf fi a’m cyd-Gyfarwyddwyr wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol y busnes fel ei fod o gwmpas i wasanaethu ei gleientiaid a’n cymunedau am flynyddoedd lawer i ddod.”
Rôlau / Cyfrifoldebau Eraill
Mae Lynette yn Rhiant-Lywodraethwr yn ysgol ei phlant ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych (CADMHAS); rôl y mae wedi’i dal ers dros 12 mlynedd.
Yn y Cartref
Mae Lynette yn mwynhau amser teuluol gyda’i gŵr a’i thri o blant ifanc ac ymarfer corff da yn y gampfa cyn iddi ddechrau ei diwrnod gwaith. Mae Lynette hefyd yn mwynhau gwrando ar bodlediadau (pan fydd ganddi’r amser!).
Yn 2017, soniodd y Legal 500 am Lynette fel a ganlyn. “Mae Lynette Viney-Passig, sy’n ‘gefnogol a phroffesiynol’, yn arwain adran cleientiaid preifat y cwmni ac yn darparu ‘cyngor prydlon a chlir iawn’, gyda ffocws penodol ar gynllunio ystadau ac olyniaeth ar gyfer cleientiaid busnes a ffermio.”