Meysydd arbenigedd
Pennaeth Cyfreitha, Anghydfodau a Hawliadau
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?
Ennill achosion, gwaith ymchwil cyfreithiol a chanfod diffygion yn nadleuon cyfreithiol y gwrthwynebydd.
Rwyf wedi gweithredu ar ran cyrff llywodraeth leol a chanol a nifer o sefydliadau tai mawrion mewn anghydfodau am eiddo. Rwyf wedi cynrychioli cleientiaid mewn achosion sydd wedi derbyn sylw yn y llys apêl, yn cynnwys achosion yn ymwneud ag anghydfodau etifeddiaeth, y dull cywir o asesu digollediad am dresmasu (MOD v Thompason), a chyd-orfodadwyedd cyfamodau positif (Thamesmead Town v Allotey).
Cyfrifoldebau a rolau eraill
- Aelod o’r Bwrdd Gweithredol
- Rheolwr Swyddfeydd Llandudno a Bangor
- Aelod gwreiddiol, ymddiriedolwr ac ysgrifennydd cwmni yr elusen awtistiaeth Support ASD Ltd (sef C-Saw North Wales Ltd yn flaenorol) ers 2005.
Amdanoch chi
Cerdded mynyddoedd a sgrialu, reidio beic, gwaith saer coed a gwaith atgyweirio o amgylch y tŷ. Hanes yr oes archwilio arwrol