swayne johnson logo

Cwmnïau a Masnachol


Gall ein tîm arbenigol o gyfreithwyr masnachol eich helpu a’ch cynghori ar bob agwedd o reoli eich busnes, p’un a ydych yn fasnachwr unig, masnachfraint, partneriaeth neu’n gwmni cyfyngedig, a ph’un a ydych nemor cychwyn neu wedi’ch sefydlu ers blynyddoedd. Rydym yn gweithio’n agos â chi a’ch cynghorwyr proffesiynol eraill i sicrhau eich bod yn ddigon tawel eich meddwl i ganolbwyntio ar yr hyn yr ydych eisiau ei wneud – rheoli busnes llwyddiannus.

Sefydlu eich busnes

Trwy weithio’n agos â chi i ganfod beth yw anghenion eich busnes, gallwn gynnig cyngor i chi am fanteision gwahanol strwythurau, a’ch helpu i sefydlu eich busnes newydd, o baratoi amodau a thelerau safonol y busnes a chanllawiau cyflogaeth, i gyfansoddiadau ar gyfer rhedeg y busnes, partneriaeth neu gytundebau rhanddeiliaid, a chofrestru eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau. O’r cychwyn un, gall ein cyngor arbenigol wneud gwahaniaeth a sicrhau bod eich busnes yn cael y dechrau gorau posib.

Busnesau sefydledig

Gall ein cyfreithwyr arbenigol helpu eich busnes hefyd os yw wedi’i sefydlu ers blynyddoedd. O helpu gyda’ch problemau cyflogaeth, eich cynghori am newid y strwythur neu wneud newidiadau i’ch cyfansoddiadau a dogfennau llywodraethu, i’ch helpu gyda chontractau a gweithio gyda’n harbenigwyr cyfreitha pan fydd yr angen yn codi. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr Cleientiaid Preifat i sicrhau y bydd eich busnes yn gallu parhau os byddwch yn marw neu’n colli’r gallu i’w reoli.

Eiddo Masnachol

Bydd angen i’r rhan fwyaf o fusnesau gael safle i weithio ynddo – p’un a ydych yn prynu neu’n rhentu (neu’n prynu i rentu), a ph’un a ydych yn defnyddio swyddfa mewn adeilad neu warws diwydiannol mawr – a gall ein cyfreithwyr cwbl gymwysedig sicrhau bod yr eiddo ‘perffaith’ yr ydych wedi dod o hyd iddo yr un mor ‘berffaith’ o safbwynt cyfreithiol. Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth yr ydych ei hangen am yr eiddo ac na fyddwch yn canfod pethau annymunol ac annisgwyl amdano, a bod y gwaith yn cael ei symud ymlaen mor gyflym ag y bo modd, fel eich bod yn gallu cynllunio eich camau nesaf heb oedi dianghenraid. Beth bynnag yw anghenion eich Eiddo Masnachol, gall Cwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson eich helpu i gyflawni’r hyn yr ydych ei eisiau.

 

Contractau

Mae contractau masnachol yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau ac amgylchiadau. Ond, mae’r egwyddorion sylfaenol yr un fath i bob contract. Mae gan ein cyfreithwyr brofiad o amrywiaeth o gontractau busnes, yn cynnwys cytundebau prynu a gwerthu, cytundebau breinio a chytundebau mentrau ar y cyd. Gallwn helpu i baratoi amodau a thelerau safonol i fusnesau a gallwn gynghori ar y mwyafrif o drefniadau cytundebol.

Eiddo Deallusol

Mae angen diogelu syniadau busnes arloesol, dyluniadau a brandiau a logos y mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, ac mae gennym gynghorwyr arbenigol sy’n gallu rhoi arweiniad i chi ar y ffordd orau o ddiogelu neu werthu hawliau eiddo deallusol eich busnes neu eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall. Gall ein cyfreithwyr gynnig cymorth ac arweiniad am Nodau Masnach a Hawlfraint, yn ogystal â rhoi cyngor cyffredinol i chi am batentau, a hawliau dylunio wedi’u cofrestru ac heb eu cofrestru.

Corfforiadau

P’un a ydych yn gobeithio corffori busnes sy’n bodoli’n barod neu gychwyn un newydd, gallwn eich helpu i baratoi eich Erthyglau Cymdeithasu, i greu eich cwmni cyfyngedig newydd, ac i drosglwyddo asedau i’r cwmni. Yn aml iawn mae pobl yn dewis cwmnïau teulu neu gwmnïau bach preifat yn lle partneriaethau, a gall y rhain fod yn ffordd fwy priodol o wneud busnes ac yn fwy effeithlon o ran treth. Hefyd, trwy weithio gyda’ch cyfrifyddion (a chydweithwyr mewn adrannau eraill pan fo raid), gallwn sicrhau bod gan eich cwmni’r trefniadau mwyaf effeithiol i ymdrin â materion megis rheolaeth gan reolwyr, gwrthdaro, ymddeoliad ac olyniaeth.

Gwerthu, Prynu a Chyfuno

P’un a ydych yn gwerthu neu’n prynu asedau busnes neu gyfranddaliadau cwmni, neu’n cyfuno gyda busnes arall neu’n sefydlu menter ar y cyd, mae’r problemau perthnasol yn gymhleth, ac mae’n hanfodol bwysig cael cyngor arbenigol o’r cychwyn un. Gallwn eich helpu i baratoi Penawdau’r Telerau, a fydd yn helpu i lywio cwmpas y trafodiad, yn ogystal ag ymdrin â chytundebau cyfrinachedd a chyfyngu. Byddwn yn sicrhau bod telerau’r trafodiad yn deg, a’ch bod yn gwybod yn union beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau o dan y contract. Byddwn yn gweithio gyda’ch cyfrifyddion, eich bancwyr a phobl broffesiynol eraill i sicrhau bod eich trafodiad yn cael ei gwblhau’n gyflym ac yn llwyddiannus.

Ystadau gyda Thir

Mae nifer o ystadau mawrion i’w cael yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, ac mae Swayne Johnson yn fodlon iawn bod nifer o Ystadau mawrion wedi ymddiried yn y cwmni i ymdrin â materion eiddo, materion yn ymwneud â chleientiaid preifat (yn cynnwys ewyllysiau a chynlluniau cymhleth ynghylch treth) ac anghydfodau.

Cartrefi Gofal a Chartrefi Nyrsio

Mae ein cyfreithwyr arbenigol yn cydweithio ar draws y gwahanol adrannau i roi’r cyngor gorau posib i berchnogion cartrefi nyrsio a chartrefi gofal am faterion eiddo, parhad busnesau, yn ogystal â chyngor am gyfreitha a chyflogaeth

Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol