swayne johnson logo

Cyfreitha Sifil, Anghydfodau a Hawliadau


Cyfreitha Sifil a Datrys Anghydfodau

Gall y cyfreithwyr yn ein hadran gyfreitha sifil a datrys anghydfodau eich helpu gydag amrywiaeth eang o anghydfodau sifil yn cynnwys:-

  • Cyfreitha ac anghydfodau am gyfraith tir/eiddo
  • Anghydfodau am brofiant, ewyllysiau ac ymddiriedolaethau.
  • Cyfreitha sifil cyffredinol a datrys anghydfodau, yn cynnwys:-

– Anghydfodau adeiladu
– Anghydfodau cytundebol : busnes neu breifat
– Anghydfodau polisi yswiriant
– Esgeuluster a niwsans
– Tor-dyletswydd proffesiynol.

  • Anghydfod ynghylch eiddo deallusol, masnachol a chyflogaeth

Mae gan ein tîm cyfreitha sifil ddegawdau lawer o brofiad ac arbenigedd. Rydym wedi magu enw da iawn nid yn unig ymysg ein cleientiaid ond hefyd gyda’n cydweithwyr proffesiynol.

Cyfreitha ac Anghydfodau Cyfraith Tir/Eiddo

Mae gennym dîm o gyfreithwyr sy’n brofiadol iawn mewn cyfreitha ac anghydfodau cyfraith tir ac eiddo. Gallwn roi cyngor i chi am amrywiaeth eang o anghydfodau, ceisiadau tribiwnlys ac achosion llys mewn perthynas ag eiddo masnachol ac eiddo preswyl fel ei gilydd.

Mae ein cyfreithwyr arbenigol yn gweithredu ar ran amrywiaeth mawr o bobl sy’n dod yn rhan o anghydfodau o’r fath sy’n cynnwys perchnogion rhydd-ddaliol, landlordiaid, tenantiaid, meddiannwyr a chymdogion, p’un a ydynt yn gwmnïau cyfyngedig, partneriaethau neu fusnesau unig fasnachwr arall, unigolion preifat neu Gymdeithasau Tai.

Mae amrywiaeth eang ein meysydd o arbenigedd yn cynnwys:-

  • Honiadau am Feddiant Wrthgefn
  • Adnewyddu lesau Tenantiaeth Busnes o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954
  • Anghydfodau am Derfynau
  • Anghydfodau am Hawddfreintiau e.e. yn ymwneud â hawliau tramwy, hawliau parcio, hawliau draeniad ac ati
  • Anghydfodau landlord a thenant (masnachol a phreswyl) yn cynnwys:

– Hawliad i feddiannu
– Hawliad digolledu am dorri Cyfamod e.e. diffyg atgyweirio
– Hawliadau blaendal y denantiaeth i ddychwelyd y blaendal a thalu dirwyon am dorri amodau’r blaendal.
– Gorfodaeth a chytundebau gorswm
– Cyfamodau cyfyngol : dehongli a gorfodi
– Gorfodi cyfamodau positif drwy athrawiaeth cyd-fuddiant a chyd-faich [Bu ein cyfreithiwr ni Mr David Scott yn cymryd rhan yn un o’r achosion blaenllaw yn y maes yma yn y Llys Apêl : Thamesmead Town –v- Allotey].

Byddwn yn gweithredu er eich budd gorau chi bob amser gyda’r nod o sicrhau ateb cyflym a chost-effeithiol i anghydfodau o’r fath. O dan reolau llys presennol, mae’n rhaid i achosion llys gael eu hystyried fel y dewis olaf fel arfer ar ôl i bob dull rhesymol arall o geisio datrys y ddadl gael eu defnyddio. Gallwn eich helpu gyda Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (“ADR”). Ond, os nad yw’r ADR yn llwyddo (mae rhai gwrthwynebwyr mor afresymol nes ei bod hi’n amhosibl cynnal dadl resymol gyda nhw) neu os nad yw’n briodol (e.e. lle mae angen gweithredu ar frys) yna byddwn yn gweithredu ar eich rhan ac yn eich tywys drwy’r broses llys neu dribiwnlys mewn achos a ymleddir.

Costau

Ymhob achos byddwn yn rhoi cyngor clir a manwl i chi am y costau tebygol (yn cynnwys alldaliadau megis ffioedd llys a ffioedd bargyfreithwyr) ar gyfer amrywiol gamau’r achos, fel eich bod yn gwybod o’r cychwyn beth yw eich ymrwymiadau tebygol o ran costau.

Teimlwn fod hyn yn arbennig o bwysig fel bod ein cleientiaid yn gallu rheoli eu cyllideb a gwneud penderfyniadau ac asesiadau deallus ar sail dadansoddiad costau : manteision.

Anghydfodau am Gontractau, Esgeuluster a Niwsans

Mae gwe gymhleth bywyd a gallu dyn i ddyfeisio a chamddeall yn golygu bod ffyrdd di-ri y gall anghydfodau godi wrth i ni ddelio gyda phobl eraill. Mae gan ein tîm o gyfreithwyr cyfreitha arbenigol enw da iawn am ddelio gydag amrywiaeth eang o achosion o’r fath, yn cynnwys :

  • Anghydfodau adeiladu.
  • Anghydfodau cytundebol – busnes a phreifat.
  • Anghydfodau polisi yswiriant.
  • Esgeuluster a niwsans : e.e. yn codi o niwed i eiddo, neu dresmasu ar eiddo, gan gymdogion neu drydydd parti
  • Tor-dyletswydd proffesiynol – e.e. esgeuluster gan gyfrifyddion, penseiri, bargyfreithwyr, cyfreithwyr neu syrfewyr

Byddwn yn gweithredu er eich budd gorau chi bob amser gyda’r nod o sicrhau ateb cyflym a chost-effeithiol i anghydfodau o’r fath. O dan y rheolau llys presennol, mae’n rhaid i achosion llys gael eu hystyried fel y dewis olaf fel arfer ar ôl i bob dull rhesymol arall o geisio datrys y ddadl gael eu defnyddio. Gallwn eich helpu gyda Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (“ADR”). Ond, os nad yw’r ADR yn llwyddo (mae rhai gwrthwynebwyr mor afresymol nes ei bod hi’n amhosib cynnal dadl resymol gyda nhw) neu os nad yw’n briodol (e.e. lle mae angen gweithredu ar frys) yna byddwn yn gweithredu ar eich rhan ac yn eich tywys drwy’r broses llys neu dribiwnlys mewn achos a ymleddir.

Costau

Ymhob achos byddwn yn rhoi cyngor clir a manwl i chi am y costau tebygol (yn cynnwys alldaliadau megis ffioedd llys a ffioedd bargyfreithwyr) ar gyfer amrywiol gamau’r achos, fel eich bod yn gwybod o’r cychwyn beth yw eich ymrwymiadau tebygol o ran costau.

Teimlwn fod hyn yn arbennig o bwysig fel bod ein cleientiaid yn gallu rheoli eu cyllideb a gwneud penderfyniadau ac asesiadau deallus ar sail dadansoddiad costau : manteision.

Anghydfodau am Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau, Profiant ac Etifeddiaeth

Gall ein tîm o gyfreithwyr arbenigol eich helpu gydag amrywiaeth eang o anghydfodau yn cynnwys ewyllysiau, marwolaeth heb ewyllys, ymddiriedolaethau, profiant a hawliadau o dan y Ddeddf Etifeddiaeth (Darparu ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975.

Mae nifer yr anghydfodau o’r fath wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar am amrywiaeth o resymau.

Mae ein tîm arbenigol o gyfreithwyr sy’n delio gydag anghydfodau o’r fath yn cael eu cynorthwyo a’u hategu gan dîm mawr iawn o gyfreithwyr Swayne Johnson yn y tîm Cleientiaid Preifat annadleuol sy’n delio gydag ewyllysiau, ymddiriedolaethau, profiant, marwolaeth heb ewyllys, y Llys Gwarchod, dirprwyaethau ac Atwrneiaeth Arhosol.

Dyma rai o’r mathau o achosion y mae ein cyfreithwyr cyfreitha’n ymdrin â nhw:

  • Ewyllysiau ac Ewyllysiau sy’n cael eu Herio – e.e. ar sail diffyg gweithrediad cywir, analluedd neu ddylanwad gormodol.
  • Camdrin oedolion bregus yn ariannol.
  • Hawliadau ar sail Deddf Etifeddiaeth (Darpariaeth i Deuluoedd a Dibynyddion) 1975 – e.e. gan bartneriaid priod siomedig, partneriaid sifil, pobl sy’n cyd-fyw, plant neu ddibynyddion eraill.
  • Anghydfodau’n ymwneud â dehongli ewyllysiau ac ymddiriedolaethau’n anghywir.
  • Esgeuluster neu fethiannau eraill i ymdrin yn gywir â gweinyddu ystadau neu ymddiriedolaethau.

Anghydfodau Masnachol, Cyflogaeth ac Eiddo Deallusol

Mae ein cyfreithwyr arbenigol yn ymdrin ag anghydfodau masnachol, cyflogaeth ac eiddo deallusol. Mae  ganddom brofiad sylweddol o ymdrin ag achosion o’r fath, i fusnesau/cyflogwyr ac i weithwyr cyflogedig/unigolion.

Mae ein cyfreithwyr masnachol yn cynnwys ac yn ymdrin â gwrthdaro ac anghydfodau sy’n wynebu sefydliadau neu eu gweithwyr cyflogedig. Yn aml iawn mae hyn yn gofyn mynd ati i gyfreitha’n gryf, ond mae hefyd yn gofyn canfod atebion ymarferol a masnachol, a hynny mewn sefyllfaoedd hynod gynhennus fwy na heb.

Mae ganddom brofiad sylweddol o faterion eiddo deallusol, yn rhai cynhennus a di-gynnen, sy’n cynnwys cofrestru nodau masnach a datrys anghydfodau er mwyn sicrhau bod hawliau eiddo deallusol priodol yn cael eu hawlio, eu diogelu a’u defnyddio er budd mwyaf y cleient.

Ymysg yr amrywiaeth mawr o faterion y gallwn gynnig ein arbenigedd ynddynt y mae:

  • Anghydfodau am gontractau masnachol.
  • Anghydfodau am gontractau cyflogaeth a Chytundebau Setlo.
  • Anghydfodau am gontractau Contractwr/Hunangyflogaeth.
  • Anghydfodau am nodau masnach/hawliau eiddo deallusol.
  • Anghydfodau rheoliadol.

Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol