swayne johnson logo

Trawsgludo


Mae gennym ni yn Swayne Johnson gyfoeth o brofiad mewn ymdrin â thrawsgludo a materion perthnasol. “Trawsgludo”, yn ei hanfod, yw gweithrediad ymarferol y gyfraith yng Nghymru a Lloegr fel y mae’n berthnasol i’r tir – gall fod yn faes hynod o dechnegol ac mae’n newid drwy’r amser.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ymdrin â’r amrediad llawn o waith yn ymwneud ag eiddo – o eiddo preswyl i ddatblygiadau masnachol a chynghori ystadau tir am faterion yn ymwneud â chyfraith eiddo. Mae gennym berthynas gref a hirsefydlog gyda phobl broffesiynol eraill yn y maes eiddo, megis asiantau tir ac ymgynghorwyr cynllunio.

Gallwch deimlo’n dawel eich meddwl y byddwch yn derbyn gwasanaeth proffesiynol o safon uchel. Pan fo’n briodol, gallwn alw ar arbenigedd ein cydweithwyr sy’n gallu rhoi cyngor am bynciau perthnasol megis cynllunio trethi, ewyllysiau, ac anghydfodau ynghylch eiddo.

Mae pob sefydliad bron erbyn hyn yn honni eu bod yn gallu rhoi cyngor i chi am brynu a gwerthu cartref. Pwy ddylech chi ymddiried ynddynt i roi’r cyngor cywir i chi?

Yn draddodiadol, Cyfreithwyr yw’r unig ffynonellau gwirioneddol annibynnol ar gyfer cael cyngor a chymorth yn y maes yma, ac fel hynny y bydd hi hefyd. Ein polisi ni yw sicrhau bod cleientiaid yn derbyn gwasanaeth cynghori hollol annibynnol o’r funud yr ystyriwch roi eich eiddo ar y farchnad, hyd nes bydd y gwerthiant wedi’i hen gyflawni. Byddwn yn:

    • Argymell Cwmnïau Gwerthu Tai ac Eiddo i chi sy’n dda, yn effeithiol a chanddynt enw da, gan ddefnyddio ein gwybodaeth am yr ardal leol a’r gymuned fusnes.
    • Gwirio eich ‘dêl’ morgais i chi i sicrhau eich bod yn derbyn y cynnig yr ydych yn ei ddisgwyl ac i sicrhau y bydd o’r budd ariannol gorau i chi.
    • Os gofynnwch, eich cyfeirio at gynghorwr ariannol hollol annibynnol a ddefnyddir gan gwmnïau proffesiynol yn unig ac nad ydynt ar gael ar y Stryd Fawr.
    • Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau bod eich trafodiad yn symud ymlaen mor gyflym ac mor effeithlon ag sy’n bosibl.
    • Rhoi cyngor am gyd-berchnogaeth eiddo, datganiadau ymddiriedaeth a’r goblygiadau.
    • Cysylltu gyda chi drwy gydol y broses fel eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd a pham.

Rydym yn falch o’r ffaith ein bod yn cadw cysylltiad personol agos gyda’n cleientiaid fel eich bod yn gwybod bod gennych rywun wrth eich ochr bob amser. Nid yw prynu a gwerthu tai mor syml y dyddiau yma ag oedd hi, neu ag y dylai fod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cyngor cywir cyn i chi gychwyn.

Gall ein arbenigwyr hefyd ymdrin â materion cymhleth eraill yn ymwneud ag eiddo, megis:

    • Hawliau tramwy
    • Tir fferm
    • Hawddfreintiau
    • Treth
    • Lesau

Mae’n bleser gan Swayne Johnson gyhoeddi ein bod wedi cael lle ar Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith. Rydym yn ystyried hyn yn ardystiad go iawn o’n gwasanaeth i gleientiaid yn y maes yma.

Ein Tîm Trawsgludo 

Dewiswch un o’n Cyfreithwyr cymwysedig i’ch helpu gyda’ch mater cyfreithiol