Cyfreithiwr Cyswllt / Cleient Preifat / LLB (Anrh) ac LPC (2018)
Teitl swydd: Cyfreithiwr Cyswllt
Tîm: Cleient Preifat
Cymhwyster: LLB (Anrh) ac LPC
Dyddiad Cymhwyso: 2018

Cysylltwch Anna Lloyd Edwards

01824 730561

edwardsa@swaynejohnson.com

Meysydd arbenigedd

Ewyllysiau a Threth Etifeddiant, Cynllunio Olyniaeth, Atwrneiaeth Arhosol, Gwarchod Asedau ac Ymddiriedolaethau a Gweinyddu Ystadau. Mae Anna yn gweithio yn agos gyda’r Tim Amaeth i gynghori ffermwyr a thirfeddianwyr ar y materion uchod.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Dw i wrth fy modd yn cwrdd â chleientiaid newydd a chael y cyfle i weithio gyda theuluoedd ffermio ac adeiladu perthynas waith ddibynadwy dros nifer o flynyddoedd. Dw i hefyd yn mwynhau ymweliad â fferm!

Gan fy mod yn ferch a gwraig i ffermwr, rwy’n deall yr heriau sy’n wynebu teuluoedd ffermio wrth amddiffyn eu bywoliaeth.

Cyfrifoldebau a Rolau Eraill

Mae Anna yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith Amaethyddol ac mae hefyd yn Gadeirydd y feithrinfa leol.

Amdanoch chi

Mae Anna yn wreiddiol o Rhuthun ond mae hi bellach yn byw gyda’i gŵr a’i dwy ferch ar fferm deuluol ei gŵr ar gyrion Corwen.

Mae Anna’n mwynhau bod yn yr awyr agored a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd (pan fydd amser yn caniatáu)!

Mae Anna yn siarad Cymraeg os byddai’n well gennych.

Beth mae cleientiaid Anna yn ei ddweud

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth