Meysydd arbenigedd
Trawsgludo Preswyl – gwerthu a phrynu, eiddo prydlesol a chofrestru tir
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?
Mae Mared yn mwynhau pob agwedd o’i gwaith sy’n cynnwys trafodion gwerthu a phrynu preswyl, eiddo prydlesol a chofrestru tir.
Cyfrifoldebau a rolau eraill
Mae Mared yn Ysgrifennydd i Fenter Iaith Sir Ddinbych
Amdanoch chi
Yn ei hamser hamdden, mae Mared yn mwynhau rhedeg, beicio a phobi! Mae hi wedi rhedeg hanner marathon Caerdydd, Ras Redeg y Great North Run ac mae hi’n bwriadu rhedeg hanner marathon yn Llundain cyn hir.
Gall Mared siarad Cymraeg os byddai’n well gennych.