Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr / Pennaeth Fasnachol, Elusennol ac Eglwysig / LLB Anrh (2006)
Teitl swydd: Cyfarwyddwr a Chyfreithiwr
Tîm: Pennaeth Fasnachol, Elusennol ac Eglwysig
Cymhwyster: LLB Anrh
Dyddiad Cymhwyso: 2006

Cysylltwch Meysydd arbenigedd

01745 818250

llyrw@swaynejohnson.com

Meysydd arbenigedd

Mae Llŷr yn aelod o’r adran ddigynnen ac yn arwain y Tîm Cyfraith Masnachol, Elusennol ac Eglwysig. Mae Llŷr yn delio gyda phob agwedd o waith Masnachol, yn cynnwys gwaith cwmni pur ac eiddo masnachol, ac mae ganddo arbenigeddau mewn Cyfraith Elusennol a Chyfraith Eglwysig

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy swydd yw helpu cleientiaid i wireddu eu dyheadau, a chydweithio â nhw wrth iddynt symud i’r cam nesaf yn eu tyfiant a’u datblygiad.

Cyfrifoldebau a rolau eraill

Cafodd Llŷr ei benodi’n Gofrestrydd Esgobaethol ac yn Ysgrifennydd Cyfreithiol i Esgob Llanelwy ym mis Mawrth 2011, ac ef oedd yr unigolyn ieuengaf i ddal y swydd honno yn hanes yr Eglwys yng Nghymru, ac yn un o ddim ond chwe unigolyn yng Nghymru i gael swydd o’r fath. Cryfhaodd Llŷr ei arbenigedd drwy gwblhau Meistr y Cyfreithiau mewn Cyfraith Eglwysig (LLM(Canon)) drwy Brifysgol Caerdydd, gan gymhwyso ym mis Ebrill 2014.

Amdanoch chi

Ymunodd Llŷr â Chwmni Cyfreithwyr Swayne Johnson fel cyfreithiwr dan hyfforddiant ym mis Mehefin 2004, gan gymhwyso yn 2006. Daeth Llŷr yn Gyfarwyddwr y cwmni ym mis Hydref 2012. Yn ei amser rhydd mae Llŷr yn Ysgrifennydd Cwmni i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru (NWIMF) ac Amgueddfa Dinbych, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr i Gymdeithas Cymuned Llanelwy a Llyfrgell Glasdstone ym Mhenarlâg – yr unig lyfrgell Brif Weinidogol ym Mhrydain, ac un o’r ychydig lyfrgelloedd preswyl yn y byd. Mae Llŷr hefyd yn gerddor brwd ac mae wedi canu gyda Chôr Eglwys Gadeiriol Llanelwy ers oddeutu 30 o flynyddoedd. Mae’n dal i ganu gyda chôr siambr yn ardal de Manceinion, lle mae’n byw ar hyn o bryd.

Gall Llyr siarad Cymraeg os byddai’n well gennych chi.

Beth mae cleientiaid Meysydd yn ei ddweud

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth