Cyfreithiwr Cyswllt / Trawsgludo Preswyl / BSc Anrh (2009)
Teitl swydd: Cyfreithiwr Cyswllt
Tîm: Trawsgludo Preswyl
Cymhwyster: BSc Anrh
Dyddiad Cymhwyso: 2009

Cysylltwch Phillip Patel

01492 550693

patelp@swaynejohnson.com

Meysydd arbenigedd

Eiddo preswyl sy’n cynnwys prynu a gwerthu tai, eiddo prydlesol, adeiladau newydd, trosglwyddo ecwiti ac ail-forgeisio.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Gall trafodion eiddo roi straen ar brynwyr a gwerthwyr. Rwy’n cymryd pleser mewn lleihau’r straen hwnnw, lle bynnag y bo modd, trwy ddarparu gwasanaeth llyfn ac effeithlon. Mae’n hanfodol fod y client yn gallu ymddiried yn y rhai sy’n eu cynghori. Credaf fod cyfathrebu clir, hygyrchedd, amserlenni realistig a chyngor mewn iaith syml yn rhan allweddol o’r gwasanaeth rwy’n ei ddarparu.

Cyfrifoldebau a rolau eraill

Mae fy merch yn bêl-droediwr brwd ac rydw i wedi cymhwyso fel Arweinydd Pêl-droed CBDC i gynorthwyo ei thîm lleol.

Amdanoch chi

Rwyf wrth fy modd gyda chwaraeon ac mae gennyf diddordeb arbennig mewn pêl-droed. Rwyf hefyd yn mwynhau cadw’n heini yn gyffredinol (anafiadau’n caniatáu) ac ambell wydriad o Cognac safonol.

Mae Phillip yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

Beth mae cleientiaid Phillip yn ei ddweud

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth