Meysydd arbenigedd
Ewyllysiau a Threth Etifeddiant;Gweinyddu Ystadau ac Ymddiriedolaethau;Cynllunio Olyniaeth a Chadw Asedau; Atwrneiaeth Arhosol.
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?
Being able to help people. Gallu helpu pobl. Gan amlaf byddwch chi’n cyfarfod â phobl sy’n mynd trwy gyfnodau heriol, fel colli anwylyd, ac mae gallu eu helpu trwy gynnig cefnogaeth, cyngor cyfreithiol ac arweiniad yn dod â boddhad mawr. Gall derbyn tusw o flodau neu gerdyn diolch gan gleient a allai fod yn dal i alaru, a gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth, fod yn galonogol iawn.
Dros y blynyddoedd, byddwch hefyd yn ffurfio perthynas go iawn gyda’ch cleientiaid, weithiau yn gweithredu i’r un teulu dros sawl cenhedlaeth. I mi, dyma un o’r canmoliaethau mwyaf gan ei fod yn dangos faint o ffydd sydd gan y teulu yna yn eich gallu cyfreithiol a thechnegol, yn ogystal ag ansawdd y gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu ond mae’n bwysig bod â dealltwriaeth a dyfnder go iawn o’r gyfraith.
Cyfrifoldebau a rolau eraill
Rydw i’n Hyrwyddwr Iechyd Meddwl hyfforddedig. Rydw i hefyd wedi gwirfoddoli fel Arweinydd Afanc gyda’n criw lleol. Rydw i hefyd yn aelod o Gyfreithwyr i’r Henoed (Solicitors for the Elderly).
Amdanoch chi
Rydw i’n mwynhau mynd am dro gyda fy nheulu a’n ci. Rydw i wedi dechrau gwneud ioga yn ddiweddar ac rydw i hefyd yn mwynhau chwaraeon dŵr a nofio.
Siaradwr Cymraeg?
YDW