Doedd gen i dal ddim syniad o beth oeddwn i eisiau ei wneud o ran gyrfa pan oeddwn i’n y chweched dosbarth. Roedd fy mhynciau Safon Uwch yn cynnwys Llenyddiaeth Saesneg, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Pan oedd hi’n amser meddwl am y dyfodol, a cheisiadau’n agored i brifysgolion, fe wnes i gais i Brifysgol Bangor i astudio Troseddeg. Roeddwn i’n ystyried y posibilrwydd o ennill gradd a gwneud cais i ymuno â’r heddlu.
Roedd fy nghais yn llwyddiannus ac er bod fy astudiaethau yn mynd yn dda, roeddwn i’n teimlo nad oedd Troseddeg yn iawn i mi. Fodd bynnag, fe wnes i fwynhau’r modiwl Cyflwyniad i’r Gyfraith gafodd ei gynnig fel rhan o’r cwrs. Fe wnes i siarad gyda phennaeth y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor a derbyn cadarnhad y gallwn i newid cwrs a dechrau fel myfyriwr blwyddyn gyntaf y mis Medi canlynol.
3 blynedd yn ddiweddarach ac fe wnes i ennill gradd dosbarth cyntaf yn y gyfraith. Fodd bynnag, roedd dod o hyd i swydd yn y sector cyfreithiol yn anodd iawn! Penderfynais ymrwymo i yrfa fel Cyfreithiwr a pharhau gyda’m hastudiaethau trwy gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn Christleton. Fe wnes i gwblhau modiwlau mewn Cleientiaid Preifat, Cyfraith Teulu a Chyfraith Eiddo i enwi ond ychydig. Llwyddais i’w cyflawni gyda rhagoriaeth.
Ar ddiwedd y cwrs LPC, fe wnes i ymchwilio i’r cwmnïau lleol yn fy ardal. Fe wnes i ddiweddaru fy CV a pharatoi llythyr eglurhaol i’w anfon at y rhai yr oedd gen i ddiddordeb ynddynt i nodi fy niddordeb mewn gwneud cais am gytundeb hyfforddi (oedd yn anodd iawn dod o hyd iddynt). Yn y cyfamser, ymunais ag asiantaeth dros dro, ac roedd gen i rôl weinyddol mewn swyddfa am ryw flwyddyn cyn i swydd fel ysgrifennydd cyfreithiol i gwmni yng Nghaer ddod ar gael. Es i am gyfweliad anffurfiol a derbyn y swydd.
Tua 12 mis i mewn i’m rôl fel ysgrifennydd, gwelais e-bost yn fy ffolder sothach gan reolwr swyddfa Cyfreithwyr Swayne Johnson yn fy ngwahodd am gyfweliad ar gyfer swydd Ysgrifennydd / Cynorthwyydd Cyfreithiol, gyda’r bwriad o gael Cytundeb Hyfforddi o bosibl. Roedden nhw wedi cadw fy CV a’m llythyr eglurhaol ar ffeil a bellach yn edrych i gyflogi. Aeth y cyfweliad dau gam yn dda a dechreuais fy ngyrfa yn Swayne Johnson ym mis Awst 2016.
Daeth cynnig am gytundeb hyfforddi yn fuan. Roeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio amser yn swyddfa Llanelwy a Dinbych yn gweithio gyda’r tîm Llys Gwarchod a Chleientiaid Preifat. Bu imi barhau gyda’m cymwysterau proffesiynol gan gynnwys y Cwrs Sgiliau Proffesiynol gyda chefnogaeth y cwmni. Cefais gynnig swydd llawn amser fel Cyfreithiwr o fewn y tîm Cleientiaid Preifat ar ddiwedd fy nghytundeb hyfforddi dwy flynedd, ac roeddwn i’n falch iawn o dderbyn.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth i’m hyder a’m profiad dyfu, nodais fy awydd i ddod yn Aelod Cyswllt ac fe gefais fy nyrchafu yn Aelod Cyswllt. Penderfynais astudio ymhellach felly fe wnes gofrestru ar y diploma uwch STEP yn arbenigo mewn paratoi Ewyllys a dwy flynedd yn ddiweddarach, bu imi ennill statws TEP. Rydw i bellach yn rhedeg fy nhîm a’m swyddfa fy hun fel Uwch-aelod Gyswllt. Mae rhan o fy swydd yn cynnwys hyfforddi eraill o fewn y cwmni. Mae fy hyfforddai, Olivia, yn ddiweddar wedi cymhwyso fel Cyfreithiwr ac mae fy ysgrifennydd, Beth, wedi ei dyrchafu yn ddiweddar i Gynorthwyydd Cyfreithiol.
Mae llawer wedi newid yn ystod fy 9 mlynedd diwethaf yn y cwmni, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd yn y blynyddoedd i ddod.