Mae Swayne Johnson yn cefnogi Wythnos Materion Terfyn Oes a gynhelir eleni rhwng 13eg a 19eg Mai.

Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol ar baratoi Ewyllysiau a chynnig chymorth gyda profiant ledled Gogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer. Golyga hyn ein bod yn dod i gysylltiad rheolaidd gyda’r testun o farwolaeth ac rydym yn llwyr sylweddoli pa mor anodd ydi hi i nifer o bobl i gychwyn trafod y pwnc.

Mae’r ymgyrch Materion Terfyn Oes yn ceisio codi ymwybyddiaeth o farwolaeth a phrofedigaeth ymysg y cyhoedd a hwyluso’r sgyrsiau anodd yma.

Caiff un o brif ddigwyddiadau’r ymgyrch yng Ngogledd Cymru ei gynnal ddydd Gwener, 10fed Mai yn Neuadd y Dref, Llandudno. Bydd stondinwyr yno rhwng 10yb i 3.30yh i gynnig cyngor a gwybodaeth, paneidiau a chacennau ac chewch eich diddanu gan ddynwaredwr Elvis.

Y syniad ydi y bydd hi’n fwy tebygol y bydd ein dymuniadau yn hysbys ac yn cael ei gwireddu yn dilyn ein marwolaeth os ydym yn ei chael yn haws i drafod y pwnc. Gall hyn arwain at brofiad gwell i’r person sy’n marw a’u teulu.

Fel cyfreithwyr sy’n arbenigo mewn Ewyllysiau a Phrofiant rydym yn ymwybodol o’r ffyrdd y gallwn hwyluso’r broses o ymdrin â marwolaeth a phrofedigaeth.  Er enghraifft, pan yn paratoi Ewyllys neu Bŵer Atwrnai gallwn helpu ein cleientiaid gyda chynlluniau diwedd oes ac Ewyllysiau Byw.

Wrth ddelio â Phrofiant, rydym yn canolbwyntio ar y camau y gallwn eu cymryd i leddfu’r pwysau ar yr ysgutorion fel bod ganddynt fwy o gyfle i alaru.

Mae gofyn i gymdeithas gyfan ymrwymo i newid eu hagwedd er mwyn i drafodaeth ynglŷn â marwolaeth a phrofedigaeth ddod ychydig yn haws i bawb.  Dyna pam fod digwyddiadau fel ‘Wythnos Materion Diwedd Oes ‘ mor bwysig.

Mi fydd gennym stondin yn y digwyddiad yn Neuadd y Dref, Llandudno ar 10fed o Fai -a bydd chacennau arni! Gobeithio y gwelwn ni chi yno.

 

Rydym yma ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiol

Rydyn ni yma ar gyfer eiliadau pwysig eich bywyd

×

Gadael Adborth