Meysydd arbenigedd
Pennaeth Amaeth
Mae ganddi wybodaeth eang am Gyfraith Amaethyddol Cymru ac mae hi’n arbenigo yn y meysydd a ganlyn:
- Eiddo Amaethyddol
- Strwythur Busnesau Fferm
- Cynllunio Olyniaeth ar Ffermydd
- Prynu a Gwerthu Preswyl
- Tenantiaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 a Hawliadau Olyniaeth
- Tenantiaethau Busnesau Fferm ar ôl 1995; Cytundebau Tacio a Thrwyddedau Pori.
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?
Mae Caryl yn cymryd agwedd gyfannol tuag at Gynllunio Olyniaeth Ffermydd ac mae hi’n helpu cleientiaid i ganfod pa effaith y byddai gwneud newidiadau penodol yn ei chael ar ddyfodol y fferm a’u canlyniadau posibl ar drethiant. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda phobl broffesiynol eraill i gyflawni cynllun fydd yn gweithio i’r teulu ac i’r busnes hwnnw.
Cyfrifoldebau a rolau eraill
Dyfarnwyd gwobr Syr William Mars Jones iddi yn 2001
Yn 2009, fe’i gwnaed hi’n Gymrawd Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol (FALA), sef y cymhwyster arbenigol lefel uchaf y gall y sefydliad ei roi.
Amdanoch chi
Mae Caryl yn cael ei gwahodd yn rheolaidd i fod yn siaradwr gwadd am faterion cyfreithiol sy’n effeithio ar y Diwydiant Amaethyddol ac mae hi wedi ymddangos ar deledu Cymraeg yn trafod Cynllunio Olyniaeth Fferm.
Gall Caryl siarad Cymraeg gyda chi os byddai’n well gennych chi.