swayne johnson logo

Y Llys Gwarchod


Am fod gennym 2 allan o 3 Dirprwy Llys Gwarchod Cymru o fewn y Cwmni, cydnabyddir bod Swayne Johnson yn un o arbenigwyr blaenllaw’r Llys Gwarchod yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Llys Gwarchod yn bodoli i edrych ar ôl materion ariannol y bobl hynny sydd heb y gallu meddyliol bellach i wneud hynny eu hunain. Nid yw’r Llys yn ymyrryd heb gais gan berthynas neu bobl eraill megis cyfeillion neu gymdogion sydd efallai wedi dechrau pryderu am rywun a’u hanalluedd amlwg i reoli eu materion eu hunain yn foddhaol.

Nid yw’r Llys Gwarchod yn sefydliad i’w ofni ac, yn wir, rhaid croesawu ei rôl. Yr unig beth y mae gan y Llys ddiddordeb ynddo yw’r unigolyn y mae angen edrych ar ôl ei faterion.

Bydd y Llys yn sicrhau bod Dirprwy’n cael ei benodi i weithredu ar ran yr unigolyn analluog. Rôl y Dirprwy yw gweithredu yn y ffordd sydd o’r budd mwyaf i’r unigolyn y mae wedi ei benodi/phenodi ar eu cyfer. Gall y Dirprwy fod yn aelod o’r teulu neu gall fod yn berson proffesiynol. Yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn perthnasol a natur problemau’r unigolyn hwnnw, gall y rôl gymryd llawer o amser. Er y byddai’n ymddangos bod defnyddio aelod o’r teulu’n arbed costau, bydd defnyddio rhywun proffesiynol hefyd yn sicrhau rhywfaint o arbenigedd ac annibyniaeth na fydd i’w gael gan aelodau agos o’r teulu bob tro. Os oes anghydfod yn digwydd codi o fewn y teulu neu ymysg unrhyw gyfeillion sy’n ceisio cael eu penodi, yna bydd Dirprwy proffesiynol annibynnol yn hynod o werthfawr.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn goruchwylio Dirprwyon ac yn sicrhau bod cyfrifon yn cael eu cyflwyno a bod Dirprwyon yn gweithredu yn unol â’u Gorchymyn Llys.

Gall Swayne Johnson gynnig cymorth sylweddol i deuluoedd a chyfeillion pobl sydd wedi dod yn feddyliol analluog oherwydd salwch neu ddamwain. Rydym yn ymdrin â mwy na 60 o Ddirprwyaethau, yn amrywio o gleientiaid gydag anafiadau i’r ymennydd, i gleientiaid sydd â dementia. Mae gennym ddau Ddirprwy Panel o fewn y cwmni – pobl broffesiynol sydd wedi cael eu cydnabod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel pobl sydd â’r sgiliau angenrheidiol, yr arbenigedd a chefnogaeth swyddfa gefn ar gyfer y rôl. Mae gan ein Dirprwyon Panel – Sarah Noton ac Yvonne Hughes – gryfder ychwanegol y Dirprwyon Lynette Viney-Passig and Siân Thompson, y mae’r ddwy wedi eu penodi’n Ddirprwyon Proffesiynol profiadol ers nifer o flynyddoedd. Mae gennym dîm o gyfreithwyr a Chymorth Cyfreithiol i wneud gwaith y Llys Gwarchod ac rydym yn cynnig cyfle i chi siarad gydag un o’n Dirprwyon yn ddi-gost am faterion y Llys Gwarchod fel eich bod yn gallu penderfynu a ydych angen cymorth.

Gallwn roi cyngor i chi nid yn unig am gael Gorchymyn Llys Gwrachod a’i reoli ond hefyd am faterion cysylltiedig megis Cynllunio Treth i’r unigolyn analluog a llunio Ewyllys Statudol.

 

Dewiswch un o’n harbenigwyr mewn Cyfraith Profiant i’ch helpu gyda’ch materion cyfreithiol.