swayne johnson logo

Effaith y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) wrth werthu eich busnes


Posted on 30 Apr 2019

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau yn prosesu gwybodaeth am eu cwsmeriaid, eu cleientiaid a’u gweithwyr. Felly, bydd y GDPR yn cael effaith ar y broses o werthu’r busnes.

Bydd y prynwr am sicrhau ei fod yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am eich busnes fel y gall wneud penderfyniad gwybodus. Fel arfer, byddwch yn cael holiadur diwydrwydd dyladwy cyfreithiol trwy eich cyfreithiwr y bydd angen ei lenwi’n gywir. Gan fod y GDPR wedi cael ei gyflwyno, disgwylir y bydd yna fwy o bwyslais ar gydymffurfio â materion diogelu data. Bydd cynghorwr y prynwr yn edrych yn ofalus ar yr atebion a ddarparwyd i nodi a yw’r busnes wedi bod yn cydymffurfio. Mae’n bwysig iawn bod eich busnes yn gallu amlygu cydymffurfiaeth, gan y bydd cynghorwr y prynwr yn tynnu sylw at y cosbau y gellir eu rhoi i’r darpar brynwr am ddiffyg cydymffurfiaeth.

Byddai’n fuddiol iawn i chi nodi’r data a brosesir ac adolygu’r gweithdrefnau sydd gennych ar waith cyn i chi ddechrau’r broses werthu. Yma yn Swayne Johnson, mae gennym yr arbenigedd angenrheidiol i’ch helpu yn hyn o beth gan fod ein tîm Masnachol yn delio’n rheolaidd â gwerthiannau busnesau, a chan fod gennym yr wybodaeth arbenigol i ddarparu cyngor ar y GDPR.

Bydd y prynwr am gael gwybodaeth benodol, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny: y math o ddata personol a brosesir, sut y mae’r busnes yn casglu ac yn storio’r data, a oes cofnodion priodol wedi cael eu cadw, a oes swyddog diogelu data wedi cael ei benodi, ac a oes unrhyw gytundebau prosesu data yn bodoli gyda thrydydd partïon.

Os ydych yn gallu dangos bod eich busnes wedi ystyried gofynion perthnasol y GDPR yn ofalus, bydd hynny’n rhyddhad i ddarpar brynwr.

Bydd cael dirnadaeth o’ch busnes wedyn yn ein galluogi i’ch helpu i ateb yr holiadur diwydrwydd dyladwy. Byddwn yn cynghori bod angen gwneud y datgeliad yn unol â’r egwyddor cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder o dan y GDPR. Mae’n debygol iawn y bydd angen i chi olygu data personol neu sicrhau eu bod yn ddienw cyn eu rhoi i’r prynwr. Er enghraifft, gwybodaeth am weithwyr a chwsmeriaid/cleientiaid a chyflenwyr unigol.

Rhagwelir hefyd y bydd mwy o ffocws ar y trafodaethau mewn perthynas â’r gwarantau diogelu data, yn enwedig os yw’r diwydrwydd dyladwy yn dangos bod yna rwymedigaethau posibl o ran diogelu data. Gallwn gynnig y cyngor angenrheidiol a rhoi eglurhad i chi mewn perthynas â’ch amgylchiadau penodol chi.