swayne johnson logo

Ydych chi’n priodi yn 2018?


Posted on 05 Apr 2018

Ffrog; eglwys; lleoliad; siwtiau; blodau; gwahoddiadau …mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae’r holl bethau hyn yn bwysig a byddant yn helpu creu diwrnod gorau eich bywyd! Fodd bynnag, fe ddylai rhoi materion ffurfiol mewn trefn hefyd fod ar y rhestr honno; megis gwneud Ewyllys.

Mae ystadegau yn awgrymu nad oes gan ddwy ran o dair o boblogaeth oedolion y DU Ewyllys, er gwaethaf y ffaith fod mwy na tri chwarter yr oedolion yn bwriadu gadael arian i’w hanwyliaid.

Mae llawer o’r rhai sy’n cynllunio gadael arian iw hanwyliaid yn credu bydd yr arian yn mynd yn awtomatig i’r bobl y maen nhw’n dymuno, ond yn anffodus nid yw hyn yn wir.

Er mwyn sicrhau bod eich asedau yn mynd i’r bobl yr hoffech, fe’ch cynghorir i wneud Ewyllys.

Heb Ewyllys, bydd eich asedau yn pasio yn unol â rheolau anwyllysedd – rheolau cymhleth sydd yn gorchymyn pa aelodau o’r teulu gall etifeddu. Er bod rhai newidiadau diweddar i’r rheolau hyn; yn frawychus, os nad ydych chi’n briod â’ch partner, ni fyddant yn etifeddu unrhyw un o’ch asedau yn awtomatig. Yn hytrach gall pherthynas nad ydych chi’n ei hoffi, neu heb cwrdd â nhw, etifeddu eich asedau yn lle hynny.

Mae Gwneud Ewyllys hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddarparu ar gyfer pwy ddylai ofalu am eich plant ac anifeiliaid anwes, nodi’ch dymuniadau angladd a gwneud anrhegion unigol i ffrindiau ac elusennau. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi sicrhau bod eich ystâd yn derbyn gofal gan y rhai yr ydych yn ymddiried ynddynt, trwy bennu Ysgutor.

Yn fyr, i sicrhau bod eich asedau yn derbyn gofal gan y person y byddech chi’n ei ddewis ac yn cael ei ddosbarthu i’r rhai y dylech chi wneud Ewyllys.

Ar ben hynny, mae’n hanfodol sicrhau bod eich Ewyllys mor diddos â phosib a’i fod yn ddilys yn gyfreithlon. Felly, fe’ch cynghorir i ymweld â chyfreithiwr i sicrhau ei bod yn cael ei baratoi a’i weithredu yn y modd cywir.

Felly, er mwyn lleihau unrhyw drafferthion a thor galon i’ch hanwyliaid ar ôl eich marwolaeth, cysylltwch â Rebecca Robinson …

Rebecca Robinson

Rebecca Robinson

Solicitor, Private Client Team
Tel:  01745 582535

Email: rebeccar@swaynejohnson.com


Newyddion pellach - »