swayne johnson logo

Prynu Busnes


Posted on 26 Apr 2019

Os ydych yn bwriadu prynu busnes (prynu asedau), mae’n eithaf posibl eich bod yn meddwl sut y mae’r broses yn gweithio. Rydym yn aml yn helpu cleientiaid i brynu busnesau a all amrywio o westai, salonau ac ystafelloedd te i siopau manwerthu. Amlinellir prif gamau’r trafodiad isod.

  1. Cytundebau Rhagarweiniol

Mewn rhai amgylchiadau, bydd y partïon yn ymrwymo i gytundeb cyfrinachedd cyn iddynt gael unrhyw wybodaeth o natur gyfrinachol a/neu gytundeb cyfyngu i gytuno ar gyfnod cyfyngu penodol.

  1. Penawdau’r Telerau

Byddwn fel arfer yn cael Penawdau’r Telerau gan yr asiant gweithredol (os oes un yn bodoli). Ar y llaw arall, bydd rhai cleientiaid wedi negodi’n uniongyrchol, a byddwn yn cael telerau allweddol y cytunwyd arnynt ymhlith y partïon. Mae hyn yn rhoi trosolwg i ni o’r trafodiad, ac yn ein helpu i roi syniad clir i chi o’r costau cyfreithiol a fydd ynghlwm. Lle bo hynny’n bosibl, rydym yn ceisio darparu dyfynbris sefydlog ar ddechrau’r mater.

  1. Ystyriaethau o ran treth

Bydd gwerthiant asedau fel arfer yn cynnwys nifer o asedau, er enghraifft eiddo, stoc, cyfarpar, peiriannau ac ewyllys da. Dosrennir y pris prynu, ac mae’n bwysig gweithio’n agos gyda’r cyfrifwyr er mwyn cytuno ar y dosraniad oherwydd y goblygiadau amrywiol o ran trethi.

  1. Diwydrwydd dyledus

Byddwch chi, y prynwr, am sicrhau eich bod yn darganfod cymaint â phosibl am y busnes. Rydym yn eich cynorthwyo yn hyn o beth trwy baratoi holiadur diwydrwydd dyladwy cyfreithiol sy’n cynnwys materion megis eiddo, diogelu data, cyflogaeth a phensiynau. Yna, caiff yr holiadur hwn ei lenwi gan y gwerthwr a’r cynghorwyr perthnasol. Os oes eiddo wedi’i gynnwys, byddwn yn cynnal y chwiliadau ac ymholiadau arferol mewn perthynas â’r eiddo, sef y chwiliadau ac ymholiadau y byddem fel arfer yn eu cynnal mewn trafodiad trawsgludo.

  1. Cyflogeion

Byddwn yn nodi pa un a fydd TUPE 2006 (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006, SI 2006/246) yn berthnasol, ac yn cynghori ar y goblygiadau o dan TUPE 2006. Yn gyffredinol, mae TUPE 2006 yn golygu bod yr holl gyflogeion yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r trosglwyddai, ynghyd â’u contractau cyflogaeth.

  1. Y Cytundeb Prynu Asedau

Cytundeb ysgrifenedig ffurfiol yw hwn, y bydd y partïon yn ymrwymo iddo ac a fydd yn cynnwys pob agwedd ar y broses o brynu’r busnes, gan gynnwys y partïon, yr asedau, yr eiddo, amodau cwblhau, cyflogeion, rhwymedigaethau, dyledion, gwarantau, a’r cyfyngiadau ar y gwerthwr. Bydd hwn yn bwrpasol, a chaiff ei negodi ymhlith y cyfreithwyr gweithredol a’i ddiwygio yn unol â hynny.

  1. Datgeliad

Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn paratoi llythyr datgeliad. Bydd hwn fel arfer yn cynnwys datgeliadau penodol (er enghraifft, os bydd y gwerthwr yn ymwybodol o sefyllfa megis hawliad o ran y gyfraith cyflogaeth).

  1. Materion o ran cwblhau

Cwblhau’r pryniad yn ffurfiol, cwblhau unrhyw aseiniadau neu drosglwyddiadau ac unrhyw gydsyniadau angenrheidiol. Trosglwyddir y cyllid trwy’r cyfreithwyr.

  1. Ar ôl cwblhau

Delio â’r mater o dalu treth dir y dreth stamp a ffeilio ffurflenni. Y cais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru teitl y prynwr i’r eiddo. Cyflwyno hysbysiadau aseinio, hysbysiadau is-osod, a hysbysiadau o gostau i’r landlord (fel y bo’n briodol).


Newyddion pellach - »