swayne johnson logo

Grandparents Rights


Posted on 28 Oct 2016

Mae’n gyffredin iawn i weld nain neu taid wrth giatiau’r ysgol yn pigo ei wyrion a wyresau ar ddiwedd y dydd. Yn yr un modd, mae’n gyffredin gweld nain a taid gyda’r wyrion ifanc mewn grwpiau megis Ti a Fi neu o gwmpas yn y gymuned, yn bwydo’r hwyaid neu ar y siglen yn y parc. I amryw o rhieni sydd yn gweithio mae nain a taid yn ffynhonnell o ofal plant am ddim sydd yn caniatáu iddynt weithio heb orfod talu ffioedd gofal a gwarchod uchel.

Ond beth sydd yn digwydd pan un diwrnod mae’r berthynas yn torri lawr rhwng y rhiant a’r nain a’r taid ac mae terfyn ar y cyswllt? Gall hyn fod am amryw o resymau; tor-priodas, marwolaeth neu pan mae dadl yn troi yn ffrae gynhennus.

Yn gyntaf oll mae’n bwysig ystyried effaith hyn i gyd ar les emosiynol y plentyn, yn arbennig os yw nain a taid wedi bod yn gofalu am y plentyn hefyd.

Mae amryw yn credu bod gan nain a taid hawliau cyfreithiol i gael cyswllt gyda’r wyrion, ond yn anffodus nid dyma’r achos. Os na all nain a taid a’r rhiant ddod i benderfyniad yna mae’n bosibl bydd rhaid iddynt ystyried cyflwyno cais i’r llys.

Cyn cyflwyno unrhyw gais i’r llys yna bydd angen i’r partïon fynd i gyfarfod cyfryngu (mediation). Os nid yw hyn yn addas neu yn aflwyddiannus yna bydd angen i nain a taid wneud cais i’r llys am Orchymyn Trefniant Plentyn.

Bydd angen i nain a taid gael caniatâd gan y llys i wneud y cais. Bydd angen dangos bod perthynas ystyrlon gyda’r plentyn. Lles y plentyn fydd prif ystyriaeth y llys a bydd y llys yn edrych ar yr achos o sefyllfa’r plentyn.

Mae gan Swayne Johnson gyfreithwyr profiadol ac arbenigol yn yr adran teulu sydd â dealltwriaeth o’r ystyriaethau cyfreithiol a emosiynol o achosion cyswllt â phlant. Bydd ein cyfreithwyr wrth law drwy gydol y broses er mwyn sicrhau y canlyniad gorau i chi.


Newyddion pellach - »