swayne johnson logo

Special Guardianship Order : A Half Way House?


Posted on 24 Oct 2016

Daeth Gorchmynion Gwarcheidwad Arbennig (GGA) yn gyfraith yn 2005. Mae GGA yn orchymun cyfraith preifat sydd yn apwyntio un neu fwy o unigolion i fod yn warcheidiwr arbennig y plentyn gan rhoi hawliau rhiant iddynt a chartref sefydlog i’r plentyn. Ond mae’n bwysig nodi nad ydi’r berthynas gyfreithiol rhwng y plentyn a’i rhieni geni yn cael ei diddymu.

Mae gwarcheidiwr arbenning yn gallu defnyddio ei hawliau rhiantu gan allgau eraill â hawliau rhiant. Yn ymarferol beth mae hyn yn ei olygu ydi bod Gwarcheidiwr Arbennig yn gyfrifol am benderfyniadau dydd i ddydd am ofal y plentyn. Ond ni all Gwarcheidiwr Arbennig newid cyfenw’r plentyn na chwaith tynnu’r plentyn allan o’r awdurdodaeth am fwy na thri mis.

Mae GGA yn cael ei gysidro fel y tir canol rhwng maethu a mabwysiadu. Nid yw’n drefniant parhaol fel gorchymyn mabwysiadu. Mae GGA yn cael ei derfynu yn awtomatig ar ben-blwydd y plentyn yn 18 oed. Mae hefyd yn bosibl amrywio neu diddymu GGA.

Mae Gwarcheidwyr Arbennig yn deilwng i becyn cefnogaeth gan yr awdurdod lleol a gall hyn gynnwys cefnogaeth ariannol. Mae’r canllawiau statudol a’r achosion llys (adroddedig) yn gefnogol o becynnau ariannol ond mae ansicrwydd ynglŷn â pha lefel dylai hyn fod. Ystyriaeth bwysig arall i unrhyw unigolyn sydd yn ystyried cyflwyno cais i’r llys i ddod yn Warcheidiwr Arbennig ydi bod y pecynnau ond am amser cyfyngedig.

Ers 2011 mae’r defnydd o GGA wedi codi 55% yng Nghymru a Lloegr. Mae’r cynnydd sylweddol yma mewn GGA wedi cymryd lle yn ystod cyfnod o gyllidebau awdurdod lleol yn cael ei torri a nifer uchel o geisiadau gofal. Mae’r materion hyn, yn ei tro yn rhoi straen ar yr awdurdodau lleol i sicrhau cartrefi parhaol i blant.
O dan yr amgylchiadau yma, ynghyd a newid mewn rheoliadau a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, mae’n hanfodol bod unrhyw un sydd yn cysidro cyflwyno cais I’r llys am GGA yn derbyn cyngor cyfreithiol annibynnol.

Mae gan Gyfreithwyr Swayne Johnson, arbenigwyr yn yr adran deulu. Mae ganddynt brofiad sylweddol o gynghori gofalwyr teuluol, gofalwyr maeth ac awdurdodau lleol yng nghyd destun ceisiadau am GGA. Bydd ein cyfreithwyr wrth law i’ch cynghori trwy’r broses gan sicrhau y canlyniad gorau i chi ac eich teulu.


Newyddion pellach - »