swayne johnson logo

Make a Will


solicitors chester

Posted on 07 Jan 2016

Mi fydd llawer ohonom wedi treulio amser yn gwneud rhestr o ffyrdd y gallwn wella ein bywydau ar ddydd Calan. Yn wir, mae ystadegau’n awgrymu fod 95% o Brydeinwyr yn gwneud o leiaf un adduned Blwyddyn Newydd wrth i’r cloc daro hanner nos.

Fodd bynnag, o fewn wythnos mi fydd 48% o bobl wedi rhoi i fyny a bydd 88% wedi dychwelyd at eu hen ffyrdd erbyn diwedd mis Ionawr.

Un adduned Blwyddyn Newydd y gallwch ei wneud a’i chadw yw gwneud Ewyllys. Dywedodd Rebecca Robinson o’r Adran Ewyllysion a Phrofiant sy’n arbenigo mewn paratoi Ewyllysiau ar gyfer amrywiaeth eang o gleientiaid o’r broses gwneud Ewyllys: “Gall y broses fod yn syml a chyflym ac mae’r cam cyntaf mor hawdd â chodi’r ffôn i drefnu apwyntiad gyda eich cyfreithiwr. ” Wrth siarad am pwy ddylai wneud Ewyllys  meddai  “os ydych yn rhedwr marathon 22 mlwydd oed neu yn paratoi i ymddeol, dylech fod yn meddwl rhoi cynllun ar waith i ddiogelu eich anwyliaid pe baech yn marw.”

Unwaith y byddwch wedi gwneud apwyntiad hefo cyfreithiwr, gall y broses o wneud Ewyllys fod yn llawer mwy syml nag y mae llawer o bobl yn meddwl. Yn aml bydd pobl yn oedi cyn gwneud Ewyllys oherwydd eu bod yn credu y bydd angen  ateb llawer o gwestiynau cymhleth a gall hyn godi ofn.

Fodd bynnag, gall y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud eich Ewyllys ei grynhoi o dan 6 pennawd allweddol:

1. Rhestrwch yr hyn yr ydych yn berchen ar (eiddo, cynilion, polisïau yswiriant ac ati);

2. Manylion y Teulu;

3. Penderfynwch pwy sy’n cael beth – meddyliwch am rhoddion o eitemau penodol yn ogystal â phwy allai gael budd o weddill eich ystâd;

4 Ysgutorion- y rhain yw’r bobl sy’n sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu cyflawni. Gallwch ddewis pwy bynnag yr ydych eisiau ond dylech chi feddwl am rywun yr ydych yn ymddiried a hefyd eich bod yn dewis o leiaf dau berson i gwmpasu sefyllfaoedd lle gall un fod yn methu neu’n anfodlon i weithredu;

5. Gwarcheidwaid – os oes gennych blant bach, mae Ewyllys yn eich galluogi i enwi pwy hoffech chi gymryd gofal ohonynt pe bai’r ddau rhiant yn marw;

6. Unrhyw dymuniadau eraill efallai yr hoffech nodi, megis dymuniadau angladd.

Unwaith y byddwch wedi  ystyried pob un o’r uchod, bydd eich cyfreithiwr yn gallu rhoi cyngor sut y gallent ddrafftio eich Ewyllys i adlewyrchu eich amgylchiadau – mae eich rhan wedi cael ei wneud am y tro – hyd nes y byddwch yn derbyn drafft iw gymeradwyo ac yna yn cael eich gwahodd i lofnodi eich Ewyllys .

Felly, yn lle edrych ar wneud Ewyllys fel brofiad brawychus a llawn straen, edrychwch arno fel cyfle i adolygu eich materion  – efallai y gwelwch y bydd hyn yn arwain at frwdfrydedd o’r newydd am y dyfodol!

Gwnewch 2016 y flwyddyn y byddwch yn gwneud eich Ewyllys!

I gychwyn y  broses, cysylltwch â ni a gofynnwch i siarad hefo aelod o’n Tîm Ewyllysiau a Phrofiant


Newyddion pellach - »