swayne johnson logo

Rent Smart Wales and the New Obligations for Landlords


Posted on 01 Feb 2016

Landlordiaid – Byddwch ar eich gwyliadwriaeth!

Mae gofyniad cyfreithiol newydd ar gyfer pob landlord sy’n gweithredu yng Nghymru wedi ei gyflwyno ar 23ain Tachwedd 2015. Mae yn ofynnol yn awr i landlordiaid gofrestru eu hunain a’u heiddo rhent.

Os ydych yn berchen ar eiddo yng Nghymru nad ydych yn byw ynddo, ac yn eich caniatáu i rywun arall i fyw yn yr eiddo (lle yr ydych yn derbyn taliad o arian yn gyfnewid), yna bydd y gofyniad i gofrestru fel landlord bron yn sicr yn berthnasol i chi .

Pwy sy’n gorfod cofrestru? Bydd angen i chi gofrestru os ydych yn landlord unigol neu landlord gwmni. Os ydych yn berchen ar eiddo ar y cyd, yna rhaid i un ohonoch chi gofrestru yr eiddo ar ran y perchnogion eraill.

Fel rhan o’r broses gofrestru, rhaid i landlord roi gwybodaeth ohebiaeth, yn ogystal â chyfeiriad pob eiddo rhent. Mae ffi gofrestru iw dalu a rhaid i landlord diweddaru’r wybodaeth ar y gofrestr.

Yn ogystal, rhaid i unrhyw berson sy’n gyfrifol am osod neu reoli eiddo gael ei drwyddedu. Os ydych yn landlord ac nad ydych yn cyflogi asiant trwyddedig i osod a rheoli’r eiddo, rhaid i chi wneud cais am drwydded eich hun. Os bydd asiant yn gwneud y gwaith gosod a rheoli, yna dim ond yr asiant fydd angen ei drwyddedu.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob person ymgymryd â hyfforddiant cymeradwy, a ellir ei drefnu drwy Rhent Smart Cymru neu drwy ddarparwr arall awdurdodedig trwyddedig.

Nôd y ddeddfwriaeth yw gwella safonau rheoli yn y sector rhentu preifat, codi hyder tenantiaid mewn landlordiaid a chodi ymwybyddiaeth o landlordiaid, hawliau asiantau a thenantiaid a’u cyfrifoldebau.

O 23 Tachwedd 2015, mae cyfnod o 12 mis lle mae’r ffocws ar godi ymwybyddiaeth o’r gofynion newydd a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cofrestru a thrwyddedu newydd. Os ydych chi’n landlord neu’n asiant gosod neu’n rheoli, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion newydd hyn cyn diwedd y cyfnod cychwyn neu mi fydd yr awdurdod lleol a’r awdurdod trwyddedu yn gallu cymryd camau gorfodi yn eich erbyn.

Am gyngor ar faterion landlord a thenant a materion cyfreithiol eraill, cysylltwch â ni a gofynnwch am gael siarad ag aelod o’n Tîm Trawsgludo neu e-bostiwch cyfraith@swaynejohnson.com


Newyddion pellach - »