swayne johnson logo

Adoption Support


happy family

Posted on 20 Oct 2016

Mae dod yn rhieni am y tro cyntaf yn gyfnod hapus a hwyliog ond, ar yr un pryd, gall fod yn flinedig a heriol. Gall plant mabwysiedig fod ac anghenion ychwanegol oherwydd eu profiadau bywyd cynnar a gall hyn ddylanwadu ar eu hymddygiad adref ac yn yr ysgol.

Mewn adroddiad diweddar gan NSPCC nodwyd bod dros 60% o’r blant sydd yn cael gofal gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wedi camdriniaeth neu esgeulustod. Mae’r plant yma wedi profi digwyddiadau trawmatig a phan maent yn cael ei lleoli gyda’i teuluoedd am byth, yna dylai ystyriaeth fanwl gymryd lle o gefnogaeth mabwysiadu i’r plentyn a’i rhieni newydd.
Mae darpar fabwysiadwyr yn wynebu proses fanwl a llym cyn eu bod yn cael ei cymeradwyo. Pan mae plentyn yn cael ei gyfatebu â darpar fabwysiadwyr, yna ni ddylai’r broses asesu orffen. Yn wir mae wynebu asesiad ychwanegol yn ymddangos yn annymunol ond mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn asesu anghenion cefnogaeth mabwysiadwyr.

Mae Deddf Plant a Mabwysiadu 2002 a Rheoliadau Gwasanaeth Cefnogaeth Mabwysiadu (CYMRU) 2005 yn cadarnhau y disgwyliad bod awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth safonol i fabwysiadwyr a’r plant.

Gall pecynnau cefnogi mabwysiadu gynnwys amryw o bethau, gan gynnwys cefnogaeth ariannol, neu therapi ac mewn rhai sefyllfaoedd gall gynnwys cyllido cyngor cyfreithiol annibynnol.

Yma yn Swayne Johson, mae gennym gyfreithwyr arbenigol yn yr adran teulu sydd â phrofiad sylweddol o gynghori ar faterion yn ymwneud a mabwysiadu. Mae ein cyfreithwyr wedi gweithio yn agos â Awdurdodau Lleol a’r paneli mabwysiadu a byddent wrth law i’ch arwain drwy’r broses gan sicrhau bod y pecyn cefnogaeth gorau ar gael i chi a’r teulu newydd.


Newyddion pellach - »